Archif Newyddion
Llyfr y Flwyddyn 2008
Y mae’r cynnwrf ar fin dechrau unwaith eto…

Bydd awduron a chyhoeddwyr Cymru yn hogi’u harfau wrth i’r byd llenyddol baratoi ar gyfer lansio Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008 y Gwanwyn hwn.
Ond pwy yw’r beirniaid sydd wedi treulio blwyddyn yn pori drwy’r pentwr o gyfrolau cymwys? Pwy fydd yn wynebu’r dasg o benderfynu ar y goreuon eleni?
Y beirniaid ar banel y llyfrau Cymraeg eu hiaith yw Siân Thomas, Huw Meirion Edwards ac Aled Islwyn gyda Mavis Nicholson, Damian Walford Davies a Trevor Fishlock yn ffurfio panel y llyfrau Saesneg eu hiaith. Darllenwch am y beirniaid yma.
Tybed pa awduron fydd yn cyrraedd y Rhestr Hir eleni felly? A fydd y cyn-enillydd, Llwyd Owen yn medru rhoi ergyd arall arni ynteu ai blwyddyn y beirdd fydd hi eleni gyda chyfrolau gan Ceri Wyn Jones a Llion Jones ymhlith y llyfrau cymwys? Tybed a fydd cyfrolau buddugol yr Eisteddfod gan Tony Bianchi a Mary Annes Payne yn llwyddiannus unwaith eto? Y mae’r penderfyniad yn nwylo’r beirniaid…
Os am gael cip ar y cyfrolau cymwys hynny sy’n gymwys ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2008 cliciwch yma.
Bydd manylion pellach ynglŷn â lansiad y Rhestr Hir yn ymddangos ar ein gwefan yn fuan.
Felly, tra mae beirniaid gwobr 2008 yn pendroni pa ddeg cyfrol sydd wedi serennu , mae’r holl broses ar fin dechrau ar gyfer beirniaid gwobr Llyfr y Flwyddyn 2009. Dyma’r beirniaid a fydd yn boddi dan lyfrau am y flwyddyn nesaf:
Panel Cymraeg: Luned Emyr, Derec Llwyd Morgan a Gwyn Thomas.
Panel Saesneg: Mike Parker, John Barnie a Tiffany Atkinson.
Bydd rhestr o’r llyfrau cymwys ar gyfer gwobr 2009 yn ymddangos ar ein gwefan yn fuan.



Gwerthu Taliesin - cyfle i weithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Llên Gwerin Ardal y Chwareli - cynhadledd yn yr Amgueddfa Lechi, Llanberis
Deg awdur, deng mil o bunnoedd. Mae’r frwydr ar ddechrau. Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008
Llyfr y Flwyddyn 08 Mae’r darllen ar ben, a’r beirniaid nawr yn crafu pen…