Archif Newyddion
Cyrsiau Tŷ Newydd 2008

Cwrs ‘Sgwennu Comedi’
4 – 6 Ebrill 2008
£90 (gyda chydweithrediad BBC Radio Cymru)
All neb eich dysgu i fod yn ddoniol. Ond yn ystod y penwythnos yma fe gewch eich hannog a’ch helpu i wneud y gorau o’ch hiwmor arbennig chi. Trefnir y cwrs mewn cydweithrediad â BBC Radio Cymru ac er y bydd cyfle i sgwennu comedi o bob math bydd pwyslais ar sgwennu ar gyfer radio. Mae croeso arbennig i rai sydd eisoes yn sgwennu pethau ar gyfer y gymuned leol ac awydd mentro ymhellach. Y tiwtoriaid fydd:
Mei Jones
Yn frodor o Landdona ar Ynys Môn, bu bellach yn actio, sgriptio a chyfarwyddo ers deuddeg mlynedd ar hugain. Dechreuodd ei yrfa gyda Chwmni Theatr Cymru cyn dod yn un o aelodau cyntaf Theatr Bara Caws. Ar y radio, bu’n rhan o dîm ‘Pupur a Halen’ ac ‘Wythnos i’w Anghofio’, ac yna fe sgriptiodd, actiodd a chyfarwyddodd dair cyfres yr un o ‘C’Mon Midffild’ ac ‘Anturiaethau Dic Preifat’. Yn ddiweddar, fe’i gomisiynwyd i ysgrifennu drama gomedi o’r enw ‘Planed Patagonia’.
Tudur Owen
Wedi blynyddoedd mewn gwahanol swyddi yn cynnwys ymgymerwr ffensio trôdd at nosweithiau llawen yn perfformio ac ysgrifennu sgetsus a stand up. Bu’n rhan o griw fu’n cynnal nosweithiau stand up ar hyd a lled Cymru am ymron i ddeng mlynedd. Mae’n perfformio comedi stand up yn Saesneg yn wythnosol, yng ngogledd orllewin Lloegr yn bennaf. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer cyfresi teledu a radio gan gynnwys ’CNEX’, ’Y Rhaglen Wirion ‘Na’, ’Post Mortem’ a ’Bwletin’. Yn fwy diweddar mae wedi ysgrifennu a pherfformio rhaglenni sgetsus ’MAWR’ ar gyfer S4C â ’Sioe PC Leslie Wynne’. Enillydd gwobr “The Last Laugh” BBC 3 ar gyfer ysgrifennu comedi. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gyfres gomedi sefyllfa i S4C, ynghyd â pharatoi sioe stand up i’w pherfformio yn ng?yl Caeredin eleni.
Cwrs ‘Magu Hyder’
Ebrill 18 – 20
£205 (rhannu ‘stafell); £225 (ystafell sengl); £150 (di-breswyl).
Mae grantiau ar gael ar gyfer unrhyw un ar incwm isel.
Y cwrs delfrydol ar gyfer y rhai sy’n sgwennu ambell stori neu ambell gerdd. Cyfle i weithio a mwynhau gyda dau diwtor profiadol a brwdfrydig. Rhyngddynt mae gan y ddwy brofiad o bron iawn pob math o sgwennu – o farddoni i lyfrau plant i sgriptio. Byddant yn eich annog i ddal ati, i sgwennu mwy, ac efallai i fentro sgwennu pethau gwahanol. Yn ystod y penwythnos bydd gweithdai, amser i sgwennu a chyfle i drafod eich gwaith yn unigol efo’r tiwtoriaid:
Bethan Gwanas
Awdur nofelau, llyfrau taith, straeon byrion, dramâu llwyfan, sgriptiau teledu, colofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg a hefyd monologau ar gyfer y radio. Merch fferm o ardal Dolgellau, enillodd radd mewn Ffrangeg cyn gweithio gyda VSO yn Nigeria. Bu’n gweithio i’r cyfryngau a’r Urdd a bu’n athrawes Ffrangeg a gweithgareddau awyr agored. Enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 1985, a Gwobt Tir na n-Og yn 2001 a 2003 am Llinyn Trôns a Sgôr.
Mererid Hopwood
Fe’i ganed yng Nghaerdydd; derbyniodd ei haddysg gynnar yn ysgolion Bryntaf a Llanhari, cyn mynd ymlaen i’r coleg yn Aberystwyth. Wedi cyfnod yn University College yn Llundain, derbyniodd radd doethur mewn Llenyddiaeth Almaeneg. Bu’n ddarlithydd Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Abertawe ac yn bennaeth ar swyddfa gorllewin Cymru Cyngor y Celfyddydau cyn ymadael i weithio fel awdur a darlithydd ar ei liwt ei hun. Yn 2001 enillodd Gadair Eisteddfod Dinbych a’r cylch am ei hawdl "Dadeni" – y ferch gyntaf erioed i gyflawni’r fath gamp. Mae’n aelod o fwrdd Barddas ac yn frwd o blaid poblogeiddio’r cynganeddion, yn arbennig ymhlith merched a phobl ifainc. Hi oedd Bardd Plant Cymru 2005.

Ffoniwch Tŷ Newydd i drafod ymhellach: 01766 522811 neu post@tynewydd.org




Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.
Cyhoeddi Llysgennad Llenyddiaeth Cymru Dramor 2008
Gwerthu Taliesin - cyfle i weithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Llên Gwerin Ardal y Chwareli - cynhadledd yn yr Amgueddfa Lechi, Llanberis
Rhyw a chrefydd, pryfed a phryfetach a bardd y cannoedd lliwiau llwyd. Pwy yw’r tri ar y brig?