Archif Newyddion
Lansio Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008
Dyfernir gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2008 i’r gyfrol orau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd ysgrifennu Creadigol a beirniadaeth lenyddol. Bydd y ddau enillydd yn derbyn £10,000 yr un.
Hoffwn estyn gwahoddiad cynnes i chi ddod i un o ddau ddigwyddiad a drefnir gan yr Academi fel rhan o weithgareddau Diwrnod Cenedlaethol y Llyfr i ddathlu lansiad Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008. Cynhelir dau ddigwyddiad nos Fercher 12 Mawrth i lansio’r 10 cyfrol Gymraeg a’r 10 cyfrol Saesneg sydd ar y Rhestr Hir eleni.
Yr Atrium, Caerdydd - 6.30 pm
Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Prifysgol Morgannwg
Stryd Adam, Caerdydd, CF24 2FN
Yng nghwmni Luned Emyr a rhai o feirniaid y gystadleuaeth Sián Thomas, Aled Islwyn a Damian Walford Davies. Bydd yr actorion Richard Elfyn a Catrin Mara yn darllen detholiad o gyfrolau’r Rhestr Hir.
Llyfrgell Wrecsam - 7.00 pm
Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AU
Yng nghwmni’r beirniaid Huw Meirion Edwards a Mavis Nicholson. Arweinir y noson gan Hedd ap Emlyn a pherfformir detholiadau o gyfrolau’r Rhestr Hir gan yr actores, Angharad Llwyd.
Cysylltwch â’r Academi os hoffech ddod i un o’r digwyddiadau hyn -
029 2047 2266 / post@academi.org
Gweinyddiir y wobr gan yr Academi Gymreig gyda nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru. Cefnogir gweithgareddau Diwrnod y Llyfr gan Gyngor Llyfrau Cymru.



Gwerthu Taliesin - cyfle i weithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Llên Gwerin Ardal y Chwareli - cynhadledd yn yr Amgueddfa Lechi, Llanberis
Deg awdur, deng mil o bunnoedd. Mae’r frwydr ar ddechrau. Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008
Llyfr y Flwyddyn 08 Mae’r darllen ar ben, a’r beirniaid nawr yn crafu pen…