Archif Newyddion

Enillwyr Gwobrau Cymru Greadigol

Menna Elfyn gan John Briggs     Robert Minhinnick gan T Brancher     Richard Gwyn

Llongyfarchiadau i dri awdur sydd wedi derbyn Gwobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd Robert Minhinnick a Menna Elfyn ill dau yn derbyn £20,000 a bydd Richard Gwyn yn derbyn £12,000. Bydd y gwobrau yn eu galluogi i dreulio blwyddyn yn canolbwyntio ar greadigrwydd a rhoi cyfle iddynt ysgrifennu’n arbrofol.

Bwriad Robert Minhinnick yw ysgrifennu cyfrol o ddeg traethawd yn gysylltiedig ag ymfudo. Bydd Menna Elfyn yn ymchwilio i agweddau ar gwsg er mwyn ysgrifennu cerdd prôs mewn cyfrol a fydd yn pontio cof a dychymyg, barddoniaeth a rhyddiaith.
Bwriad Richard Gwyn yw ysgrifennu cofiant sy’n pontio sawl genre yn cynnwys ffuglen, traethawd, dyddiadur, ysgrifennu teithio a newyddiaduraeth feddygol.

Dywedodd David Alston, Cyfarwyddwr Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Fel ag yn y gorffennol, bu’r broses o ddethol enillwyr Gwobrau Cymru Greadigol eleni yn dasg manwl a chyffrous i’r rhai oedd ynghlwm â’r gwaith. Mae gwobrau Cymru Greadigol ar gyfer artistiaid sydd eisoes wedi profi eu hunain, ac sydd am dorri tir newydd drwy archwilio ac arbrofi. Bydd Robert Minhinnick, Menna Elfyn a Richard Gwyn yn gwneud hynny’n ddiamau, ac o ganlyniad byddant yn ymestyn genres, ffurfiau a dulliau o ysgrifennu.”