Archif Newyddion
Cydymdeithio

24-26 Ebrill 2008
Theatr Felin-fach, Ceredigion
Uwch gyfarfod o actifyddion diwylliannol a chelfyddydol i fynd i’r afael a’r pynciau canlynol:
- Diwylliannau lleiafrifol - ai problem neu botensial?
- Sut rydym yn goroesi globaleiddio?
- Sut ydym yn ffynnu?
- Beth allwn ei wneud drosom ein hunain?
- Beth sydd gennym i adeiladu arno?
- Ydyn ni’n ddigon uchelgeisiol?
Wedi cael llond bola o gynadledda? Bydd y gynhadledd hon yng nghwmni gweithredwyr diwylliannol yn wahanol – bydd y gynhadledd hon yn ysbrydoledig a pherthnasol i bawb.
Siaradwyr:
- O Gealtacht Iwerddon – Micheal O Fearraigh, Micheal O Dhonnail, Darach O Tuiraisg.
- O ddinas Amlddiwylliannol Derry - Eddie Kerr.
- O fro Galeg Yr Alban - Annie Mcsween, Chris Barrowman, Frank Rennie.
- O’r fro Gymraeg – Gwyn Jones, Euros Lewis, Dwynwen Lloyd Evans.
Ewch i wefan CGC am ragor o wybodaeth: www.vaw.org.uk




Cyhoeddi Llysgennad Llenyddiaeth Cymru Dramor 2008
Gwerthu Taliesin - cyfle i weithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Llên Gwerin Ardal y Chwareli - cynhadledd yn yr Amgueddfa Lechi, Llanberis
Rhyw a chrefydd, pryfed a phryfetach a bardd y cannoedd lliwiau llwyd. Pwy yw’r tri ar y brig?