Archif Newyddion
Mannau Cyfartal – Yn Fyw!
Seminarau Celfyddydau Anabledd Cymru 2008
Galeri, Caernarfon 15 Mai
Glan yr Afon, Casnewydd 20 Mai
9.45am - 4.30pm
Ydych chi’n poeni y gallai hwn fod yn seminar neu’n ddiwrnod hyfforddi diflas a allai wneud i chi gysgu? Methu goddef eistedd drwy rywbeth parchus? Ddim eisiau gwrando ar bregeth?
Mae Mannau Cyfartal – Yn Fyw! yn addo bod yn ddiwrnod gwahanol, a fydd dim perygl i chi ddisgyn i gysgu oherwydd diflastod. Mae Mannau Cyfartal wedi’i arwain gan artistiaid anabl, sydd wedi cynllunio’r diwrnod gyda rhywbeth i bawb.
Cyfle i fudiadau celfyddydau, diwylliannol ac eraill i gael cyngor ac arweiniad am yr arfer gorau ynghylch cynnwys pobl anabl, fyddar a dan anfantais.
Dyma gyfle i ‘gael blas’ ar gyrsiau mwyaf poblogaidd Celfyddydau Anabledd Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf.
· Celfyddydau Anabledd gan berfformwyr yr Unusual Stage School
· Cyfleoedd i rwydweithio
Pwy ddylai fynychu?
Mudiadau celfyddydau, timau datblygu celfyddydau awdurdodau lleol, grwpiau celfyddydau ieuenctid a chymunedol, mudiadau sector gwirfoddol, grwpiau celfyddydau ac iechyd, colegau a sefydliadau addysg bellach
Cost £25 y pen a chinio
I archebu lle yn Seminar Mannau Cyfartal – Yn Fyw! cysylltwch â Celfyddydau Anabledd Cymru
Sbectrwm, Heol y Bwlch, Y Tyllgoed, Caerdydd CF5 3EF
E-bost: post@dacymru.com
Ffôn/ minicom: 029 2055 1040 Ffacs: 029 2055 1036




Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.
Cyhoeddi Llysgennad Llenyddiaeth Cymru Dramor 2008
Gwerthu Taliesin - cyfle i weithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Llên Gwerin Ardal y Chwareli - cynhadledd yn yr Amgueddfa Lechi, Llanberis
Rhyw a chrefydd, pryfed a phryfetach a bardd y cannoedd lliwiau llwyd. Pwy yw’r tri ar y brig?