Archif Newyddion

Swyddog Llenyddiaeth

i ymuno a thîm prysur yr Academi ym Mae Caerdydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am brosiectau llenyddol ac am ddatblygu llenyddiaeth Gymraeg ledled Cymru. Bydd rhai o’r cyfrifoldebau’n cynnwys hyrwyddo gwobr Llyfr y Flwyddyn, gofalu ar ôl y wefan a threfnu digwyddiadau llenyddol yn y ddwy iaith.

Cyflog: £16,000 – £18,000

Rhinweddau Angenrheidiol:

• Y gallu i gyfathrebu’n ardderchog yn llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a Saesneg
• Dealltwriaeth o ddiwylliant Gymraeg a Chymreig
• Y gallu i drefnu a marchnata yn effeithiol
• Trwydded yrru lân a defnydd o gar
• Y gallu i weithio’n effeithiol mewn swyddfa brysur, ac fel aelod o dîm
• Y gallu i weithio dan bwysau
• Dealltwriaeth o becynnau cyfrifiadurol, megis Excel a Word

Cynorthwy-ydd Gweinyddol rhan amser

(18.5 oriau yr wythnos )

i ymuno a thîm prysur yr Academi ym Mae Caerdydd ac i weithio rhan amser bob prynhawn

Cyflog: £7,500

Rhinweddau angenrheidiol:

• Y gallu i gyfathrebu’n ardderchog yn llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a Saesneg
• Sgiliau trefnu effeithiol
• Dealltwriaeth o ddiwylliant Gymraeg a Chymreig
• Y gallu i weithio’n effeithiol mewn swyddfa brysur, ac fel aelod o dîm
• Y gallu i weithio dan bwysau
• Dealltwriaeth o becynnau cyfrifiaduriol, megis Excel a Word.

Mae rhai o gyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys:

• Diweddaru gwybodaeth ar y wefan
• Rheoli systemau ffeilio’r swyddfa
• Rheoli gwybodaeth ar gyfer Pwyllgor Aelodau’r Academi
• Delio gyda phost allannol a mewnol
• Cefnogaeth cyffredinol i’r staff

Gall y rhestrau hyn newid

Dylai ymgeiswyr anfon CV llawn, llythyr cais ac enw dau ganolwr, erbyn 16 Mai 2008 at:

Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart,
Caerdydd, CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266  ffacs: 029 2049 2930
post@academi.org  www.academi.org

Cyfweliadau: 21 Mai 2008

Mae’r Academi’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Noddir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

www.safleswyddi.com
www.jobscymraeg.com