Archif Newyddion
Swyddog Llenyddiaeth
i ymuno a thîm prysur yr Academi ym Mae Caerdydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am brosiectau llenyddol ac am ddatblygu llenyddiaeth Gymraeg ledled Cymru. Bydd rhai o’r cyfrifoldebau’n cynnwys hyrwyddo gwobr Llyfr y Flwyddyn, gofalu ar ôl y wefan a threfnu digwyddiadau llenyddol yn y ddwy iaith.
Cyflog: £16,000 – £18,000
Rhinweddau Angenrheidiol:
• Y gallu i gyfathrebu’n ardderchog yn llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a Saesneg
• Dealltwriaeth o ddiwylliant Gymraeg a Chymreig
• Y gallu i drefnu a marchnata yn effeithiol
• Trwydded yrru lân a defnydd o gar
• Y gallu i weithio’n effeithiol mewn swyddfa brysur, ac fel aelod o dîm
• Y gallu i weithio dan bwysau
• Dealltwriaeth o becynnau cyfrifiadurol, megis Excel a Word
Cynorthwy-ydd Gweinyddol rhan amser
(18.5 oriau yr wythnos )
i ymuno a thîm prysur yr Academi ym Mae Caerdydd ac i weithio rhan amser bob prynhawn
Cyflog: £7,500
Rhinweddau angenrheidiol:
• Y gallu i gyfathrebu’n ardderchog yn llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a Saesneg
• Sgiliau trefnu effeithiol
• Dealltwriaeth o ddiwylliant Gymraeg a Chymreig
• Y gallu i weithio’n effeithiol mewn swyddfa brysur, ac fel aelod o dîm
• Y gallu i weithio dan bwysau
• Dealltwriaeth o becynnau cyfrifiaduriol, megis Excel a Word.
Mae rhai o gyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys:
• Diweddaru gwybodaeth ar y wefan
• Rheoli systemau ffeilio’r swyddfa
• Rheoli gwybodaeth ar gyfer Pwyllgor Aelodau’r Academi
• Delio gyda phost allannol a mewnol
• Cefnogaeth cyffredinol i’r staff
Gall y rhestrau hyn newid
Dylai ymgeiswyr anfon CV llawn, llythyr cais ac enw dau ganolwr, erbyn 16 Mai 2008 at:
Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart,
Caerdydd, CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266 ffacs: 029 2049 2930
post@academi.org www.academi.org
Cyfweliadau: 21 Mai 2008
Mae’r Academi’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Noddir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.




Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.
Cyhoeddi Llysgennad Llenyddiaeth Cymru Dramor 2008
Gwerthu Taliesin - cyfle i weithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Llên Gwerin Ardal y Chwareli - cynhadledd yn yr Amgueddfa Lechi, Llanberis
Rhyw a chrefydd, pryfed a phryfetach a bardd y cannoedd lliwiau llwyd. Pwy yw’r tri ar y brig?