Archif Newyddion

Cymdogion Cythryblus?

Mike Parker

Dydd San Siôr: Y Saeson - Cymdogion Cythryblus?
23 Ebrill, 3pm
Oriel 1 yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru

O’r Deddfau Uno i sylwadau Anne Robinson, bydd y darlledydd, awdur a’r perfformiwr Mike Parker, sy’n enedigol o Loegr (ac awdur Rough Guide to Wales a Neighbours from Hell) yn trafod agweddau’r Saeson at y Cymry.

Croeso i bawb.

Oriel newydd sbon yn edrych ar ystyr Cymreictod ac ar fywyd yng Nghymru yw Oriel 1. Mae sgwrs yn yr Oriel bron bob wythnos, yn trafod ystod eang o bynciau yn cynnwys hanes Cymru, gwleidyddiaeth, llenyddiaeth, celf ac archeoleg.

Am fanylion pellach ewch i wefan yr Amgueddfa yma.