Archif Newyddion
CYDYMDEITHIO
Cois-cheum – Cos ar chos - Journeying Together
Uwch gyfarfod o actifyddion diwylliannol a chelfyddydol i fynd i’r afael â’n…
diwylliannau lleiafrifol – Problem neu botensial?
– Sut rydyn ni’n goroesi globaleiddio?
– Sut rydyn ni’n ffynnu?
– Beth allwn ni ei wneud drosom ein hunain?
– Beth sydd gennym i adeiladu arno?
– Ydyn ni’n ddigon uchelgeisiol?
THEATR FELIN-FACH
Yng nghanol Bro Gymraeg Ceredigion
24 / 25 / 26 Ebrill
ENGHREIFFTIAU O YMARFERIAD CELFYDDYDOL YSBRYDOLEDIG GAN
YNYSOEDD AC UCHELDIROEDD YR ALBAN, Y GAELTACHT, Y FRO GYMRAEG
BYDD ARWEINYDDION Y TRAFODAETHAU’N CYNNWYS:
• ANNIE MACSWEEN – LEWS CASTLE COLLEGE
• DWYNWEN LLOYD EVANS – THEATR FELINFACH
• EDDIE KERR – SEEDS CO-OPERATIVE, DERRY
• ELEN AP ROBERT – GALERI, CAERNARFON
• EUROS LEWIS – Y FFWRWM, CEREDIGION
• FRANK RENNIE – UNIVERSITY of the HIGHLANDS and ISLANDS
• GWYN JONES – CWLWM DIWYLLIANT, PEN LLŶN
• MICHEÁL O DHOMNAILL – FIBÍN, CO. GAILLIMH
• MICHEÁL O FEARRAIGH – ÚDARÁS NA GAELTACHTA
(Rhai o’r arweinyddion yn dal heb eu cadarnhau ar hyn o bryd)
Mae’r prosiect Cymdogion Celtaidd yn bodoli i gefnogi ac ysgogi cydweithio diwylliannol rhwng grwpiau ac unigolion sy’n byw eu bywydau trwy gyfrwng ein hieithoedd Celtaidd brodorol. Datblygodd partneriaeth dan nawdd y Carnegie Rural Commission, a’i phrif amcanion a’i dyheadau yw:
• Cefnogi ieithoedd a diwylliannau brodorol y byd Celtaidd
• Datblygu prosiectau ar y cyd a chyfnewid diwylliannol
• Datblygu strwythurau effeithiol ar gyfer teithio a chydweithio
• Datblygu cyfathrebiad a rhwydweithiau cynaliadwy
• Datblygu dulliau gwerthuso ac adrodd cydrhwng y naill a’r llall
• Rhannu a chyfnewid staff, artistiaid, sgiliau a chyfranogwyr
• Awydd i rannu’r arferion gorau – a chael hwyl!
Tâl cofrestru: £75 preswyl (yn cynnwys prydau llawn) / £25 dibreswyl
BWRSARIAETHAU TEITHIO AR GAEL YN ÔL Y GOFYN - rhagor o wybodaeth ar gael gan info@vaw.org.uk
Mae Theatr Felin-fach yng Ngheredigion, ar arfordir gorllewinol Cymru (Bae Ceredigion). Mae Abergwaun 50 milltir i’r de, Caergybi 110 milltir i’r gogledd. Mae’r theatr ei hun oddi ar y briff ffordd, yr A482, yng nghanol cefn gwlad tua 6 milltir i’r tir o dref arfordirol fechan Aberaeron, a 25 milltir i’r de o dref prifysgol Aberystwyth. Y meysydd awyr hwylusaf i’w defnyddio i gyrraedd yno yw Caerdydd, Birmingham neu Fanceinion. Mae rheilffordd uniongyrchol o Birmingham i Aberystwyth.




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008