Archif Newyddion
Rhyw a chrefydd, pryfed a phryfeach a bardd y cannoedd lliwiau llwyd.
Mewn digwyddiad arbennig yng Ng?yl y Gelli ddydd Llun 26 Mai 2008 cyhoeddodd yr Academi deitlau’r dair cyfrol sydd ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2008.
Cyfrol o farddoniaeth a dwy nofel - dyna ddewis y beirniaid Siân Thomas, Huw Meirion Edwards ac Aled Islwyn ar gyfer y Rhestr Fer eleni.
Y cyfrolau yw:
Tony Bianchi, Pryfeta (Y Lolfa)
Ceri Wyn Jones, Dauwynebog (Gomer)
Gareth Miles, Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel (Gwasg Carreg Gwalch)
Y cyfrolau ar y Rhestr Fer Saesneg yw:
Tom Bullough, The Claude Glass (Sort of Books)
Dannie Abse, The Presence (Hutchinson)
Nia Wyn, Blue Sky July (Seren / Penguin)
Brodor o North Shields, Northumberland yw Tony Bianchi. Wedi cyfnodau yn Llanbedr Pont Steffan, Cei Conna ac Aberystwyth, symudodd i Gaerdydd lle mae’n byw o hyd. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, Esgyrn Bach Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2007. Nofel am ?r a geisia adennill rheolaeth ar atgofion ysgytwol o’i blentyndod yw Pryfeta. Enillodd y nofel Wobr Goffa Daniel Owen 2007.
Ganed Gareth Miles yng Nghaernarfon ac fe’i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Yn ogystal ag ugeiniau o sgriptiau ar gyfer y teledu, mae wedi ysgrifennu nofelau, casgliadau o straeon byrion, llu o ysgrifau beirniadol ac adolygiadau a thros ugain o ddramâu gwreiddiol a chyfieithiadau. Nofel yn ymwneud â thân a bwrlwm y diwygiad yw Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel. Y mae’r gyfrol yn adrodd hanes tri ffigwr hanesyddol ac yn seiliedig ar ysgrifau newyddiadurol o gyfnod y diwygiad.
Wedi dros ddegawd fel Pennaeth Adran Saesneg Ysgol Dyffryn Teifi, ers 2002 mae Ceri Wyn Jones yn Olygydd Llyfrau Saesneg gyda Gwasg Gomer yn Llandysul. Yn Dauwynebog, mae’r bardd yn archwilio’r gwrthdaro parhaus rhwng y mewnol a’r allanol rhwng gweledigaeth ddyrchafol y galon a rheswm diddostur yr ymennydd , a rhwng y dweud a’r gwneud.
Meddai Aled Islwyn ar ran panel beirniaid y cyfrolau Cymraeg:
"Tri awdur o dair cenhedlaeth, gyda thair cyfrol wahanol iawn i’w gilydd…Cyfrolau creadigol yw’r dair ac ymfalchiwn yn y ffaith eu bod yn cynrychioli ansawdd, amrywiaeth a chryfder y byd llenyddol Cymraeg heddiw."
Gwobrwyir £10,000 yr un i’r ddau enillydd - un Cymraeg ac un Saesneg - yn ogystal â £1,000 yr un i’r pedwar a ddaw yn agos at y brig mewn Seremoni Wobrwyo yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd nos Fawrth 1 Gorffennaf 2008.
Gweinyddir y wobr gan Academi gyda nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.
Cliciwch yma i wylio ffilmiau byrion o’r awduron sydd ar y Rhestr Fer.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Academi:
029 2047 2266 / post@academi.org





Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008