Archif Newyddion

Llên Gwerin Ardal y Chwareli

  Chwarelwyr

Dydd Sadwrn, 28 Mehefin 2008

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Rhaglen
10.00 – 10.30 Ymgynnull: Te / Coffi
10.30 – 11.30 Dafydd Roberts - Llên Gwerin ‘Gwŷr Glew y Garreg Las’: Y Ddelwedd a’r Ddeuoliaeth
11.30 – 12.30 Gwen Gruffudd - Yr ‘Ystori Anfwyn’: Llenyddiaeth Streic Fawr y Penrhyn, 1900-1903
12.30 – 2.00 Cinio
1.30 – 2.30 J. Elwyn Hughes - ‘Moliannwn’ y Bardd o Fethesda
2.30 – 3.30 Bill Jones - Llythyr o America: Yr Ymfudwyr o Ardal y Chwareli a’u Gohebiaeth yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
3.30 – 4.00  Te / Coffi a Chyfarfod Blynyddol   
 
Mae’r gynhadledd undydd hon yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Ni
ddarperir cinio. Bydd lle i nifer cyfyngedig fwyta yng nghaffi’r amgueddfa, gall eraill fynd am damaid i Lanberis, neu dewch â’ch cinio eich hunain.

Er mwyn archebu’ch lle cysylltwch a’r Dr Siwan Rosser, Ysgol y Gymraeg, Adeilad y Dyniaethau, Rhodfa Colum, Caerdydd CF10 3EU neu rossersm@caerdydd.ac.uk erbyn 18 Mehefin 2008