Archif Newyddion

Gofod, Amser, Peiriannau ac Anghenfilod

Gofod, Amser, Peiriannau ac Anghenfilod

Cynhadledd Ffuglen Wyddonol, Ffantasi ac Arswyd y Cymoedd
10.00 am – 4.30 pm, Dydd Sadwrn 12 Mehefin 2008
Prifysgol Morgannwg, Trefforest
Tocynnau: £5 / £3 consesiynau; ar gael wrth y drws yn unig

Ddydd Sadwrn 21 Mehefin 2008, bydd Academi yn cynnal Cynhadledd Ffuglen Wyddonol, Ffantasi ac Arswyd yn rhan o Fenter Datblygu Llenyddiaeth Cymoedd De Cymru. Cynhelir y gynhadledd yng Nghampws Trefforest, Prifysgol Morgannwg mewn cydweithrediad â’r Adran Wyddoniaeth yno. Bydd yr Athro Mark Brake, sylfaenydd cwrs ‘Science: Fiction and Culture’ yr adran yn cyflwyno diwrnod diddorol o weithdai, trafodaethau panel a chyflwyniadau. Bydd llu o awduron, sgriptwyr ac artistiaid creadigol talentog o Gymru yn cymryd rhan, gan gynnwys Jasper Fforde, Phillip Gross, Tim Lebbon, Steve Lockley, Steve Volk, Catherine Fisher, Terry Cooper a llawer mwy.

Mae’r gynhadledd yn anelu i ddenu ac i ddathlu talentau creadigol pobl o bob oed a gallu gyda sgyrsiau a gweithdai diddorol gydol y dydd. Bydd yn gyfle gwych i dynnu sylw at genre o lenyddiaeth sy’n prysur dyfu mewn poblogrwydd.

Dyma flas o sesiynau’r diwrnod:

On the Edge and Out of Order
Gweithdy gyda Philip Gross.

Jane Eyre, Vampires and Time Travel
Jasper Fforde a fydd yn trafod ysgrifennu ffantasïol.

OuLiPo
Cyflwyniad am sut i ysgrifennu straeon amhosib gan Rhys Hughes.

Before and Afterlife
Stephen Volk a fydd yn trafod y broses o ysgrifennu ffantasi ac arswyd ar gyfer ffilm a theledu.

Copernicus and the Wild Goose Chase
Y Parch. Neil Hook yn siarad am hanes Ffuglen Wyddonol.

Holding the Monkey’s Paw
Gweithdy ar ysgrifennu arswyd gan Steven Lockley.

Imaginary Worlds
Darlleniadau a sesiwn holi gyda Catherine Fisher.

Fright Write
Darlleniadau a thrafodaeth am ysgrifennu arswyd gyda Tim Lebbon.

Dr Who and Beyond
Trafodaeth am sgriptio ffuglen wyddonol ac arswyd gyda Andrew Cartmel, Stephen Volk a’r Athro Mark Brake.

Alt fiction Today
Jasper Fforde, Rhys Hughes, Stephen Volk, Steven Lockley, Tim Lebbon yn trafod ffuglen amgen heddiw.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Louise Richards, Swyddog Datblygu Llenyddiaeth Cymoedd De Cymru: swvldo@gmail.com neu 07854 435217, neu Academi: 029 2047 2266.

Cynhadledd Saesneg yn unig fydd hon.