Archif Newyddion
Cyhoeddi Llysgennad Llenyddiaeth Cymru Dramor 2008

Mae hi’n bleser gan Lenyddiaeth Cymru Dramor gyhoeddi mai Llysgennad Llenyddiaeth Cymru Dramor 2008 yw’r bardd, nofelydd, ysgrifwr a’r amgylcheddwr, Robert Minhinnick.
Dywedodd Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Cymru Dramor,
‘Dros y blynyddoedd mae asiantaeth Llenyddiaeth Cymru Dramor wedi gweithio’n agos gyda nifer fawr o unigolion yng Nghymru, ond yn arbennig dramor. Mae’r unigolion hyn wedi bod yn ganolog i’n gallu i gyrraedd marchnadoedd a chynulleidfaoedd ar draws y byd, ac eto mae eu gwaith yn anweledig yng Nghymru. Gyda’r anrhydedd hwn, dymunwn gydnabod eu cyfraniad.’
Dros y ddeng mlynedd diwethaf mae Robert Minhinnick wedi creu llu o gysylltiadau tymor-hir rhwng Cymru a’r byd. Tra’n olygydd ar Poetry Wales, magodd hyder a dangosodd ffydd yn rhai o awduron ifancaf a mwyaf cyffrous Cymru, gan eu gosod mewn cyd-destun rhyngwladol a’u cyflwyno i gynulleidfaoedd tramor. Fel un o awduron pwysicaf yr iaith Saesneg a’i barodrwydd i ddarganfod diwylliannau’r byd, mae wedi cynrychioli menter a dyfeisgarwch diwylliant Cymru a’n diddordeb ysol i gyfathrebu â diwylliannau eraill dramor. Fel cyfieithydd o Gymraeg i Saesneg ac o Saesneg i Gymraeg, bu’n allweddol hefyd wrth bontio dwy lenyddiaeth Cymru. Mae’r cysylltiadau hyn wedi bod yn egin cyfnewid ehangach ac yn tystio i rym cyswllt personol wrth ymestyn ar draws ffiniau diwylliannol.
Mae gwaith Robert Minhinnick wedi’i gyfieithu i wyth o ieithoedd.
Dywedodd Robert Minhinnick:
‘I believe the best writers and translators from Wales deserve to be widely read, and I am always pleased if there’s anything I can do to help that happen. Welsh Literature Abroad (WLA) aims to promote all writers here who aspire to excellence. It understands that one of the best ways that Wales can show itself to the world is through its literary cultures.’
Llenyddiaeth Cymru Dramor
Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Prifysgol Aberystwyth
Campws Llanbadarn
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AS
Ffôn: 01970 622544 / Ffacs: 01970 621524
www.llencymrudramor.org / post@llencymrudramor.org
![]()




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.