Archif Newyddion
Arad Goch ar ei newydd wedd
O’r diwedd mae Arad Goch am agor ei drysau i’r cyhoedd unwaith yn rhagor. Mae dwy flynedd bellach ers i’r cwmni theatr symud allan o’i chartref yn Stryd y Baddon, Aberystwyth er mwyn ehangu a moderneiddio’r ganolfan. Bellach mae gan y cwmni theatr bwrpasol i berfformio ynddi, ystafelloedd ymarfer a swyddfeydd, ynghyd â’r offer technegol diweddaraf. Ond holl bwrpas yr adnewyddu oedd darparu gofod y byddai’r cwmni proffesiynol yma yn fedru ei rannu â’r gymuned a dyna a adlewyrchir yn ystod y penwythnos agoriadol ar 4 a 5 Gorffennaf 2008.
Bydd seremoni dadorchuddio carreg i goffau’r achlysur yng nghwmni Elin Jones AC. Mae cefnogaeth Academi hefyd wedi sicrhau y bydd y Bardd Cenedlaethol, Gillian Clarke, yn bresennol i ddarllen cerdd o’i gwaith i ddathlu’r achlysur, a darllenir cerdd i’r un perwyl o waith Bardd Plant Cymru, Ifor ap Glyn.
Dyma benwythnos i bawb yn y gymuned – gyda sesiynau rap, ‘Brazilian Combat’, sioe ffasiwn amgen a gig gyda’r Stone Free Band, Violetones a Triattica ar y nos Wener. Ddydd Sadwrn bydd sesiynau canu i’r plant lleiaf, blas o ganu’r Delyn i ddechreuwyr pur (yn blant 7+ a’u rhieni), sesiwn yoga, gweithdy drama i blant 7-11 a sesiwn i oedolion sydd â diddordeb sefydlu cwmni drama amatur newydd yn yr iaith Gymraeg yn Aberystwyth.
Dywedodd Dr Kath Davies, Pennaeth Ariannu’r Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru:
“O’r diwedd mae gan Gwmni Arad Goch adeilad sy’n adlewyrchu ei uchelgais greadigol a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at berfformiadau’r dyfodol gan bobl ifanc, gyda llawer ohonynt yn profi theatr am y tro cyntaf erioed”.
Gofynnir i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno yn un o’r sesiynau uchod gysylltu â Arad Goch o flaen llaw (01970) 617998; post@aradgoch.org
Am wybodaeth pellach cysylltwch â:
Dana Edwards, Arad Goch, 01970 617998, dana@aradgoch.org / www.aradgoch.org




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008