Archif Newyddion

Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch

 Maes C
Maes C
Cerddi, cerddoriaeth, comedi a chraic…

Mae’r tocynnau ar werth nawr ar gyfer digwyddiadau Maes C - sef adloniant gyda’r hwyr a ddarperir mewn pabell fawr ar faes carafanau’r Eisteddfod Genedlaethol, 2-9 Awst 2008. Bydd bar hwyr ar agor bob nos tan 2.00 am. Lleolir maes carafanau’r Eisteddfod ar gaeau chwarae Blackweir yng nghanol y ddinas.

Bydd cerddoriaeth Maes C eleni yn eich cludo nôl i ddyddiau eich ieuenctid coll – ai’r saithdegau, wythdegau neu’r nawdegau oedd eich cyfnod chi? Mae’r uchafbwyntiau llenyddol yn cynnwys: CaerDydd a Nos, gyda Heather Jones, Catrin Dafydd ac eraill; Beirdd yn y Doc, noson dan bastwn y "barnwr" Emyr Lewis a Stomp y Steddfod - 16 o feirdd yn cystadlu am y gorau dan arweiniad y Stompfeistr, Arwel "Pod" Roberts.

Gellir prynu tocynnau MaesC ar y we - www.eisteddfod.org.uk  a’r Llinell Docynnau 0845 122 1176. Gellir prynu tocynnau CaerDydd a Nos a’r Stomp gan yr Academi yn ogystal ar 029 2047 2266.

Lawrlwythwch y rhaglen yma. (PDF).

Dyma manylion y rhaglen yn llawn:

Mynediad am Ddim
Nos Sadwrn 2 Awst, 8.00pm
Y flwyddyn – 1974. Y lle – Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. Dyna lle cychwynodd Mynediad am Ddim eu taith cerddorol. Ymunwch â nhw heno i ganu cân am y dyddiau da. Tocynnau £8 / Llinell docynnau: 0845 122 1176

Delwyn Sion a’r Band
Nos Sul 3 Awst, 8.00pm
Noson yng nghwmni un o sylfaenwyr Hergest, gr?p a sefydlwyd yng Ngwersyll yr Urdd Glan Llyn yn 1971. Bydd y gerddoriaeth heno yn eich swyno nôl i’r oes aur. Tocynnau £8 / Llinell docynnau: 0845 122 1176

CaerDydd a Nos
Nos Lun 4 Awst, 8.00pm

24 awr trwy’r Brifddinas mewn un noson. Cerddoriaeth a barddoniaeth gyda Heather Jones, Catrin Dafydd, Gwyneth Glyn, Rhys Iorwerth ac Owain Rhys. Trefnir y noson ar y cyd rhwng Academi a Chanolfan Ysgrifennu Tyˆ Newydd.
Tocynnau: £8 / Llinell docynnau: 0845 122 1176 / Academi: 029 2047 2266

Nôl i’r Cwm
Nos Fawrth 5 Awst, 8.00pm

Huw Chiswell – neu ‘Chiz’ – dewin yr allweddellau, seren bop ac un o heart-throbs mwyaf Cymru yr 80au a fydd yn hudo pawb â’i glasuron poblogaidd. Tocynnau: £8 / Llinell docynnau: 0845 122 1176

Beirdd yn y Doc
Nos Fercher 6 Awst, 8.00pm

Y Prifardd Emyr Lewis yw’r Barnwr  fydd yn dwyn Eurig Salisbury, Emyr Oernant, Iwan Rhys, Y Prifardd Dafydd John Pritchard, Hywel Griffiths, Aneirin Karadog ac eraill o flaen eu gwell. Trefnir y noson gan Barddas gyda chefnogaeth yr Academi. Tocynnau: £5 / Llinell docynnau: 0845 122 1176

Steve Eaves a 9 Bach
Nos Iau 7 Awst, 8.00pm

Noson o fl?s, jazz a chanu gwerin cyfoes yng nghwmni Steve Eaves a’r gr?p gwerin 9 Bach gyda’r lleisydd hudolus Lisa Jên. Tocynnau: £8 / Llinell docynnau: 0845 122 1176

Stomp y Steddfod
Nos Wener 8 Awst, 8.00pm

Noson fawreddog o farddoniaeth, chwerthin a chardiau lliw. Un bardd ar bymtheg yn cystadlu am y gorau i ennill y stôl, dan arweiniad y Stompfeistr Arwel “Pod” Roberts. Tocynnau: £8 / Llinell docynnau: 0845 122 1176

Hanner Pei
Nos Sadwrn 9 Awst, 8.30pm

Nawr mae’r 90au yn retro. Dathlwch bod yn grwfi gyda Hanner Pei. Yn eu geiriau nhw: “trowch eich speakers i fyny, gwisgwch eich Marigolds a thynwch eich trowsus i lawr am haliad nostalgic”. Tocynnau: £10 / Llinell docynnau: 0845 122 1176

Cynnig arbennig am docyn wythnos - £50 yn unig (arbed dros £10) - o linell docynnau’r Eisteddfod yn unig: 0845 122 1176

Trefnir MaesC ar y cyd rhwng yr Eisteddfod a’r Academi.