Archif Newyddion
Perfformiadau Celf a Llên ar y Maes

Erbyn hyn, mae’n arferiad gan yr Academi weithio gyda’r celfyddydau gweledol i greu gwaith traws-gelfyddydol unigryw ar y Maes. Eleni byddwn yn cydweithio â Trace, sef cwmni celfyddydol perfformiadol o Gaerdydd.
Un o artistiaid y cwmni yw’r berfformwraig adnabyddus, Eddie Ladd. Dywed: "Chwe artist yn gweithio gyda’i gilydd a geir yn y digwyddiad sy’n dwyn y teitl Trace:oddi cartref (Trace:displaced) a welir ar faes yr Eisteddfod eleni. Trwy gydol yr wythnos, bydd yr artistiaid yn ymgartrefu tu fewn i bedair wal, a fydd yn atgynhyrchiad o’r galeri go iawn yn ardal Treadda’r ddinas. Mae’r galeri hwn, Trace, wedi bod yn croesawu artistiad o bedwar ban y byd ers 1999. Yno, wedi wythnos breswyl bu’n arfer i bob artist gyflwyno gwaith perfformiadol a wedyn gadael yr olion yn y galeri fel atgof o’r gwaith. Felly y bydd hi ar faes yr Eisteddfod - yn yr un ffordd ag y mae’r ‘Steddfod yn dod â’i chartref gyda hi mae’r artistiad yn dod â’i galeri gwyn gyda nhw ac yn creu gwaith ynddo am bedwar diwrnod yn ystod y Brifwyl."
Eleni, bydd y Prifardd Tudur Dylan Jones yn derbyn yr her o gydweithio gyda’r artistiaid. Bydd yn cyfrannu cerddi a sylwadaeth ar bapur ac ar lafar. Erbyn diwedd yr wythnos bydd y pedair wal wedi bod yn dyst i weithgareddau gweledol, perfformiadol a geiriol, â’u hôl yno i bawb i’w gweld. Cynhelir y perfformiadau hyn trwy gydol yr wythnos yn rhad ac am ddim ar y Maes. Ewch i stondin yr Academi am ragor o wybodaeth.




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.