Archif Newyddion

Lansio Taliesin 134 yn
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch
Y Babell Lên
Dydd Llun 4 Awst, 3.00pm
Fe’ch gwahoddir i ddigwyddiad lansio’r rhifyn nesaf o’r cylchgrawn llenyddol Taliesin – Rhifyn yr Haf 2008: Cyfrol 134 - yng nghwmni’r golygyddion, y Prifardd Christine James a Manon Rhys, a nifer o’r cyfranwyr - Luned Emyr, Meic Stephens, Ynyr Williams, E Wyn James, Angharad Jones, Tony Bianchi a Mererid Hopwood. Bydd y rhifyn hwn ar werth ar ddiwedd Gorffennaf.
Tanysgrifio i Taliesin:
Blwyddyn (3 rhifyn) £11 yn cynnwys cludiant
2 flynedd (6 rhifyn) £20 yn cynnwys cludiant
Anfonwch sieciau yn daladwy i’r Academi Gymreig at:
Academi, Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FQ
Neu cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 i osod archeb dros y ffôn.
Mae croeso i chi gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau:
taliesin@academi.org
Cyhoeddir Taliesin gyda chymorth Cyngor Llyfrau Cymru.




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.