Archif Newyddion

Stomp y Steddfod

Stol

 

Ag yntau wedi rhoi crasfa ddwy flynedd yn olynnol erbyn hyn, mae "Pod" am roi cyfle i rywun arall fynd adre â’r stôl fach bren eleni.

Felly, a fydd llanast? A fydd anrhefn? Neu a fydd ein Stompfeistr newydd, Arwel "Pod" Roberts yn llwyddo i gadw trefn ar yr un bardd ar bymtheg?

Ymhlith y Stompwyr eleni mae Eurig Salisbury, Catrin Dafydd,  Dafydd Pritchard, Cynan Jones, Karen Owen, Huw "Wirion" Roberts, Aneirin Karadog, Huw Meirion Edwards, Rhys Dafis, Osian Rhys Jones, Hywel Griffiths, Dylan Ebenezer, Rhys Iorwerth a Mari Lisa…ond pwy fydd yn mynd â hi?

Cynhelir y Stomp nos Wener 8 Awst, fel rhan o ddigwyddiadau MaesC ar faes carafanau’r Eisteddfod. Tocynnau: £8 (£7 gost.) ar gael gan Academi: 029 2047 2266 / llinell docynnau’r Eisteddfod: 0845 122 1176

Dyma un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod felly sicrhewch eich tocynnau ar unwaith.