Archif Newyddion
Swyddi Gwag

Mae’r Academi wedi derbyn Dyfarniad Cwmni Disglair 2008 – 2010 gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr Academi yn datblygu ei chynulleidfaoedd, Sgwadiau Sgwennu i Bobl Ifainc, prosiect y Bardd Cenedlaethol a phrosiectau eraill yn ogystal ag arolygu ei systemau o gadw data ar gynulleidfaoedd.
Mae’r Academi’n chwilio am ddau aelod newydd o staff llawn amser i weithio ar gytundeb am gyfnod penodol o 18 mis i ddechrau (gyda phosibiliad ymestyn y cytundeb i un parhaol). Bydd y ddau aelod o staff yn gweithio fel rhan o dîm prysur yr Academi yn swyddfeydd Bae Caerdydd.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygu cynulleidfaoedd, yn enwedig ymysg yr ifainc, ac ymestyn cyrhaeddiad yr Academi, gan gefnogi cynlluniau nawdd yr Academi sy’n galluogi awduron proffesiynol i weithio mewn ysgolion a gyda grwpiau eraill.
RHEOLWR PROSIECT (DATBLYGU CYNULLEIDFA)
Cyflog: £20,000
Prif Gyfrifoldebau:
• Rheoli a chynnal cronfeydd data’r Academi.
• Gweithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion i sefydlu Sgwadiau Sgwennu i Bobl Ifainc ychwanegol, a chyfrannu at raglen weithgareddau a’r cyfleoedd sydd ar gael i Sgwadiau presennol ledled Cymru.
• Ymchwilio a datblygu cynulleidfaoedd i weithgareddau llenyddol yng Nghymru.
• Datblygu darpariaeth yr Academi ledled Cymru trwy gyfrwng rhaglen Twristiaeth Ddiwylliannol – megis teithiau bws llenyddol, placiau i awduron a gan ddefnyddio technoleg newydd i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.
• Cydlynu ymgyrchoedd marchnata’r Academi a meithrin cysylltiadau gyda’r wasg lleol a chenedlaethol.
Angenrheidiol
• Sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a Saesneg
• Profiad o farchnata a rheoli cronfeydd data
• Y gallu i drefnu yn effeithiol
• Trwydded yrru a’r defnydd o gar
• Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
• Y gallu i weithio dan bwysau ac i reoli amserlen gwaith amrywiol
• Dealltwriaeth o becynnau cyfrifiadurol cyfoes
Dymunol
• Dealltwriaeth o’r celfyddydau yng Nghymru
• Dealltwriaeth o strwythur awdurdodau lleol Cymru
• Profiad o ddatblygu gwefannau a dylunio
SWYDDOG CYNORTHWYO PROSIECT (DATBLYGU CYNULLEIDFA)
Cyflog: £16,500
Prif Gyfrifoldebau:
• Cefnogaeth gweinyddol i’r Sgwadiau Sgwennu i Bobl Ifainc ledled Cymru
• Bardd Plant Cymru: Cydlynu ceisiadau am ymweliadau a delio gydag ymholiadau cyffredinol
• Bardd Cenedlaethol: marchnata cyffredinol ar gyfer digwyddiadau, paratoi cytundebau a llythyron
• Cefnogaeth gweinyddol cyffredinol ar gyfer digwyddiadau: dosbarthu taflenni, paratoi cytundebau a llythyron
• Rheoli cynllun hyrwyddo cystadlaethau
Angenrheidiol
• Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a Saesneg (ystyrir ymgeiswyr sy’n ddysgwyr da)
• Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
• Y gallu i weithio dan bwysau ac i reoli amserlen gwaith amrywiol
• Dealltwriaeth o becynnau cyfrifiadurol cyfoes
Dylai ymgeiswyr anfon CV llawn, llythyr cais ac enw dau ganolwr,
erbyn dydd Mercher 8 Hydref 2008 at:
Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart,
Caerdydd, CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266 ffacs: 029 2049 2930
post@academi.org www.academi.org
Cyfweliadau: dydd Mawrth 14 Hydref 2008




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.