Archif Newyddion
Diwrnod y Llyfr – 1 Mawrth 2007

Bydd ysgolion a chymdeithasau ar hyd a lled Cymru’n dathlu Diwrnod y Llyfr ar 1 Mawrth eleni, gyda’r Academi’n noddi nifer o ymweliadau gan awduron. Un o’r prif ddathliadau fydd lansio Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn - un o wobrau llenyddol pwysicaf Cymru - yn Ninbych a Chaerdydd (gweler uchod). Tybed a fyddwch chi’n cytuno â dewis y beirniaid am y llyfrau gorau a gyhoeddwyd yn 2006? Cadwch olwg ar wefan yr Academi i weld pwy sydd wedi cyrraedd y 10 uchaf eleni.
Am ragor o wybodaeth ar Ddiwrnod y Llyfr, ewch i’r wefan yma.


