Archif Newyddion

Diweddgan ar Daith

Arwel Gruffydd yn Diweddgan (www.theatr.com)

"Does yna ddim yn fwy doniol nag anffawd…"

Mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Yr Athro Gwyn Thomas wedi cyfieithu drama dywyll, gywilyddus o gomic, gan Samuel Beckett – un o ddramodwyr mawr y byd. O ddrafft gwreiddiol Beckett, yn Ffrangeg, y creodd Gwyn Thomas y cyfieithiad hwn felly mae’n amrywio ychydig o’r fersiwn Saesneg a fydd, o bosib, yn fwy cyfarwydd i gynulleidfaoedd.

Bydd y ddrama Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru - wedi ei chyfarwyddo gan Judith Roberts - yn mynd ar daith ledled Cymru, gan ddechrau yn Theatr Gwynedd, Bangor ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth - 5 Hydref 2006.

Diweddgan, Samuel Beckett (Cyfieithiad: Gwyn Thomas)
Cyfarwyddwraig: Judith Roberts

5 - 7 Hydref:
Theatr Gwynedd, Bangor
11 - 12 Hydref: Theatr y Sherman, Caerdydd
19 Hydref: Theatr Hafren, Y Drenewydd
24 Hydref: Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
27 - 28 Hydref: Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug
31 Hydref: Y Lyric, Caerfyrddin
3 Tachwedd: Theatr Mwldan, Aberteifi

Ewch i www.theatr.com am ragor o fanylion.

I ddarllen mwy am waith Bardd Cenedlaethol Cymru ewch i’r adran "Prosiectau" ar wefan Academi: www.academi.org