Archif Newyddion
Gŵyl Bedwen Lyfrau 2008 – Crymych
Nos Wener yr 2il o Fai a Dydd Sadwrn y 3ydd o Fai yn Theatr y Gromlech, Ysgol y Preseli
Mae Bedwen Lyfrau yn Ŵyl lyfrau Gymraeg i’r teulu i gyd ac yn cael ei threfnu yn flynyddol gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru. Cynrychiola’r Cwlwm gyhoeddwyr llyfrau Cymraeg ledled Cymru. Cafodd ei sefydlu yn 2002 er mwyn hyrwyddo a diogelu buddiannau’r aelodau.
Dyma’r drydedd flwyddyn i’r Fedwen gael ei chynnal, ond y tro cyntaf iddi fwrw gwreiddiau yng Nghrymych. Bydd yn defnyddio safle Ysgol y Preseli a Theatr y Gromlech ar ddydd Sadwrn 3ydd o Fai (rhwng 10.00 a 5.00) i gynnal amrywiol weithgareddau.
Ar nos Wener 2il o Fai cynhelir noson arbennig yn Theatr y Gromlech fel rhan o’r Ŵyl – Nosweth Bobol Rygbi. Noson hwyliog yn dathlu cysylltiad y byd llyfrau gyda byd y bêl hirgron fydd hon gyda chyfweliadau gydag awduron, lansio cyfrol newydd i blant, cyfweliad gydag un o sêr y byd rygbi, cystadleuaeth limrig ar y noson a pherfformiadau gan artistiaid lleol.
Nosweth Bobol Rygbi. Yng nghwmni - Alun Wyn Bevan, Bethan Gwanas, Wyn Gruffydd, Caryl Parry Jones, Clive Rowlands, John Davies, Gareth William Jones a pherfformwyr lleol o fri.
7.30pm Nos Wener, Mai 2ail, Theatr y Gromlech, Crymych
Pris mynediad: £5 gyda gwydraid o win am ddim. Ar ôl hynny, dewch â’ch potel! Plant: Mynediad am ddim
Tocynnau ar gael yn Siop Siân, Clwb Rygbi Crymych a’r Fenter Iaith neu oddiwrth Kevin Davies 01239 831455
Dydd Sadwrn
Llu o ddigwyddiadau i bob oed – edrychwch ar yr amserlen yma
Mae manylion llawn yr wyl yma




Taliesin: Mynnwch eich copi o’r rhifyn diweddaraf.
O Gwyn i Gillian: Cyhoeddwyd taw Gillian Clarke fydd Bardd Cenedlaethol nesaf Cymru.
Draig Gampus - darllenwch gerdd gan y Bardd Cenedlaethol i ddathlu llwyddiant Cymru ym mhencampwriaeth y 6 gwlad
Deg awdur, deng mil o bunnoedd. Mae’r frwydr ar ddechrau. Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008
Llyfr y Flwyddyn 08 Mae’r darllen ar ben, a’r beirniaid nawr yn crafu pen…