Archif Newyddion

Senedd i Gymru

Senedd

Agoriad Swyddogol
1 Mawrth 2006

Ar ôl yr oedi a’r dadlau ynghylch costau, bydd y Senedd newydd yn agor yn swyddogol ar Ddydd G?yl Dewi eleni a bydd rhai o feirdd ac awduron gorau Cymru yno i arwain y dathliadau. Bydd Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cymru, ymhlith y rhai a fydd yn cymryd rhan yn yr agoriad swyddogol y bore hwnnw.

Agorir y drysau i’r cyhoedd am 2.00pm a gall ymwelwyr cyntaf y Senedd weld amrywiaeth o berfformiadau a gydlynnwyd gan breswylwyr cymydog y Senedd, sef Canolfan Mileniwm Cymru. Bydd Mererid Hopwood, Bardd Plant Cymru, yn perfformio cerdd a ysgrifennwyd yn arbennig i nodi’r achlysur arbennig hwn. Ceir perfformiad hefyd gan aelodau Sgwad Sgwennu Merthyr a fu’n gweithio gyda Grahame Davies i greu cerddi sy’n mynegi eu hymateb hwy i’r Senedd newydd.

Ac ar draws y ffordd, yn y prynhawn, cynhelir rhaglen o berfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Dewch i wrando ar Ifan Prys a Simon Mundy yn cynnig golwg ddychanol ar y Senedd newydd, ac Annes Glynn a Mike Jenkins yn rhannu rhai o’u straeon meicro.

Am amserlen lawn ar gyfer y diwrnod, ewch i wefan yr Academi – www.academi.org

Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Academi:
029 2047 2266 neu post@academi.org