Archif Newyddion
At yr Achos
Lansio cyfrol newydd o farddoniaeth gan Grahame Davies
Yn ei gyfrol gyntaf, Adennill Tir (Barddas, 1997), mynegodd Grahame Davies brofiad cymunedau difreintiedig y Cymoedd gyda dicter ac angerdd. Yn ei ail gyfrol, Cadwyni Rhyddid (Barddas 2001), a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2002, fe ddinoethodd eironi a safonau dwbl y Gymru ôl–ddatganoli gyda ffraethineb deifiol. Yn awr, yn ei drydedd gyfrol o farddoniaeth, Achos (Barddas, 2005) mae’n bwrw golwg annibynnol ar y Gymru gyfoes, gan ofyn nifer o gwestiynau dyrys wrth holi, ’Sut mae’r achos?’. Nos Fercher 26 Hydref, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, bydd Grahame Davies a Barddas yn lansio’r gyfrol newydd hon.
Dewch i ymuno â Grahame Davies i wrando ar ddetholiad o gerddi o’r gyfrol newydd.
Cyflwynir y noson hon gan Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas.
7.30 pm Nos Fercher 26 Hydref, 2005
Glanfa, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd
Mynediad am ddim
Darperir gwin
www.grahamedavies.com



