Archif Newyddion

Maes C

Maes C – Cerddi, comedi, caneuon a’r craic
Galeri, Caernarfon
31 Gorffennaf - 5 Awst 2005

Ry’n ni gyd yn gwybod nad yw hwyl y Steddfod yn gaeth i faes y brifwyl. Wedi i’r pebyll gau ac i’r derwyddon newid i ddillad ychydig mwy ymarferol, parhau wna’r adloniant ym Maes C - yr unig ddewis ar gyfer eisteddfotwr brwd sydd am ychydig mwy o ddiwylliant a gwiriondeb cyn troi am adre. Dyma’r lle sy’n chwistrellu’r awen amgen ac abswrd i’r ?yl.

Daw llenorion at ei gilydd i ddarparu nosweithiau llawn odl, egni a chwerthin, ac mae croeso i bawb ymuno yn yr hwyl. Eleni, cynhelir yr holl ddigwyddiadau Maes C yn ysblander Galeri  - y ganolfan i’r celfyddydau newydd  yn Noc Fictoria, Caernarfon Bydd cyfunaid perffaith o wynebau cyfarwydd a newydd i’w gweld yn nigwyddiadau Maes C hefyd, gan gynnwys perfformaiadau gan Twm Morys, Gwenno Mair Davies, Mererid Hopwood, Arwyn Groe, Iwan Llwyd ac eraill. Dyma gip ar rai o’r pethau sydd ar droed:

Nos Sul 31 Gorffennaf 2005, 7.30pm
Noson 4 a 6
Bydd y gomedïwraig Beth Angell yn cyflwyno noson hwyliog o lenyddiaeth, cerddoriaeth acwstig a chomedi gyda Huw Chiswell, Frisbee, John Hardy a’i gyfrol "Cwrt Cosbi", Beirdd v Rapwyr a DJ Dyl Bili.
Tocynnau: £5 gan Palas Print (01286 674631) neu Galeri (01286 685250). Gyda chymorth yr Academi


Nos Lun 01 Awst 2005, 8.00pm
Barddas yn cyflwyno: Beirdd yn y Doc
Dewch i weld y Barnwr Twm Morys yn dwyn Mererid Hopwood, Iwan Llwyd, Tudur Dylan, Karen Owen, Arwyn Groe, a nifer o feirdd adnabyddus eraill o flaen eu gwell.  Beth fydd dyfarniad y rheithgor? Pwy gaiff ei fwrw i’w celloedd? Pa un o’r beirdd caeth fydd a’i draed yn rhydd ar ddiwedd y noson?
Tocynnau: £5 ar gael o’r Galeri (01286 685222), pabell Barddas ar y Maes neu tocynnau@cynghanedd.com . Gyda chymorth yr Academi


Nos Fercher 03 Awst 2005, 8.00pm 
A i Y Cymru: Ty Newydd
A i Y Cymru yn ôl Twm Morys, Mei Mac a’r Arglwydd Snedli. Cerddi, caneuon a phob math o bethau eraill…! Bydd yr elw yn mynd tuag at Apêl Tŷ Newydd.
Tocynnau: £5 ar gael o’r Galeri (01286 685222) neu Tŷ Newydd (01766 522811).


Nos Iau 04 Awst 2005, 7.30pm
Noson 4 a 6
Yr awdur Gwion Hallam sy’n cyflwyno ail blatiad y nosweithiau poblogaidd sy’n cymysgu llenyddiaeth, comedi a cherddoriaeth acwstig. Gyda Steve Eaves, Poppies, Y Dyn Dwad a’i lyfr newydd "Chwarter Call", Gwenno Mair Davies, Catrin Dafydd a DJ Dyl Bili.
Tocynnau: £5 gan Palas Print (01286 674631) neu Galeri (01286 685250). Gyda chymorth yr Academi

 
 
GaleriAm fwy o fanylion, neu i archebu tocynnau o flaen llaw ewch i wefan y Galeri ar www.galericaernarfon.com neu ffoniwch 01286 685 250.  Am raglen lawn Galeri, dadlwythwch yma.