Archif Newyddion

Ein Hiaith Arall

Yng Nghymru cawsom ein bendithio â dwy iaith, y ddwy â chyfoeth canrifoedd o lenyddiaeth yn gynhysgaeth iddynt. Mae’n grochan aur i’r bardd. I mi, y Gymraeg yw’r iaith a ddefnyddia Cymru i siarad â hi ei hun, a’r Saesneg i siarad â’r byd.

Ni allai unrhyw etifeddiaeth gynnig mwy i’r sawl sy’n caru geiriau: Cymraeg, iaith gyntaf Prydain, ystorfa o farddoniaeth a mytholeg gynharaf Prydain, ac eto’n fyw ac yn iach ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain; a’r Saesneg, y bioden eiriau a’r lingua franca, a’i geiriadur yn chwyddo o flwyddyn i flwyddyn, ei geirfa wedi ei chymryd a’i hamsugno am dros fil o flynyddoedd o gynifer o ieithoedd, gan ddechrau â’r Gymraeg. Gallem fod wedi etifeddu dwy iaith lai heb fawr ddim llenyddiaeth. Mae gennym yn hytrach gyfoeth anhraethol. Gallem fod yn un o’r gwledydd dwyieithog hynny – fel Gwlad Belg – lle mae ieithoedd yn cynrychioli dwy gymuned nad ydynt prin byth yn siarad â’i gilydd. Yma yng Nghymru, o’r rhugl ddwyieithog i’r uniaith Saesneg, un bobl ydym. Siaradwn, dadleuwn, cytunwn, anghytunwn â’n gilydd oherwydd ein bod yn bobl â hanes sy’n gyffredin inni. Mae’r llenyddiaeth iau wedi etifeddu ei nodweddion arbennig o’r traddodiad Cymraeg.

Mae’r teitl ‘Bardd Cenedlaethol Cymru’, decinî, yn debyg i’r gragen dro yn ‘Lord of the Flies’. Os mai yn eich dwylo chi y mae, cewch siarad. Y gamp yw ei chario’n ofalus, peidio â’i gollwng, a thra bydd yn eich meddiant, siarad â doethineb, angerdd, gwirionedd, ac argyhoeddiad. Swydd llysgennad yw hon, y tu mewn a’r tu allan i Gymru. Rwy’n gobeithio y bydd yn agor drysau. Rwy’n dehongli dewis fodel yr Academi ar gyfer swydd y Bardd Cenedlaethol fel un o ddatblygu o gam i gam, y naill fardd yn adeiladu ar waith un arall, gan roi sylw gofalus i natur ddwyieithog Cymru. Tro’r Saesneg yw hi yn awr, Saesneg ein hiaith arall, iaith barddoniaeth R.S. Thomas a Dylan Thomas, yr oedd eu dylanwad ar farddoniaeth yn Saesneg yn yr ugeinfed yn enfawr. Ond erys gwaith newid meddyliau yng Nghymru o hyd. Does fawr o amser ers pan nad oedd yr un bardd o Gymru’n cael ei ystyried yn ddigon da i’w astudio yn ysgolion Cymru, heb sôn am yn ein prifysgolion. Heddiw mae llenorion Cymru yn Saesneg yn cael eu hastudio ar gyfer arholiadau ledled Prydain ac ar draws y byd Saesneg ei iaith.

Mae barddoniaeth yn rhywbeth i bawb. Mae llawer yn cyfaddef eu bod yn troi at farddoniaeth, i’w hysgrifennu neu ei darllen, ar adegau llawn emosiwn. Rwyf am weld llawer mwy o bobl yn gwneud hynny. Mae arnaf eisiau gweld cynulleidfa barddoniaeth yn tyfu. Nid yw darlleniadau wedi eu trefnu’n dda mewn lleoliadau dymunol, a gwahodd beirdd da sy’n darllen yn dda, yn denu cynulleidfa fawr heb ewyllys da yn lleol. Ond gall grwpiau o lenorion neu ddarllenwyr, y mae eu haelodau yn bersonol gyfrifol am godi cynulleidfa, chwyddo cynulleidfaoedd. Mae Gweithdy Awduron Llanbedr Pont Steffan wedi llwyddo i wneud hynny.

Hoffwn weld barddoniaeth yn treiddio ymhellach i’r diwylliant poblogaidd ac yn croesi ffiniau, fel y gwnaeth ddwy flynedd yn ôl pan gomisiynodd cwmni teledu gerddi ar gyfer ffilmiau’n hysbysebu Cwpan Rygbi’r Byd.

Rwyf am i ysgolion ddod â myfyrwyr i berfformiadau o farddoniaeth arbennig ar eu cyfer nhw. Pam lai? Os gall Poetry Live gael 150,000 o bobl ifanc yn eu harddegau allan o ysgolion yn Lloegr i fynychu digwyddiadau barddoniaeth enfawr, rwyf am weld hynny’n digwydd yng Nghymru hefyd.

Rwyf am i feirdd Cymru fod yn fwy adnabyddus ledled Prydain a chael eu cynnwys bob amser mewn gwyliau llenyddol.

Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru