Archif Newyddion

Swydd Newydd

Academi

Mae’r Academi, mewn partneriaeth â saith awdurdod lleol a gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, yn gwahodd ceisiadau ar gyfer swydd

SWYDDOG DATBLYGU LLENYDDIAETH Y CYMOEDD

Swydd tair mlynedd i ddatblygu’r theori, yr ymarferiad a’r mwynhad o lenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol yn awdurdodau lleol Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Blaenau Gwent, Pen y Bont, Sir Fynwy a Merthyr Tudful.

Cyflog: £20,000 y flwyddyn gyda lwfans teithio ac ymgynnal

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o swyddfeydd Academi yng Nghaerdydd ac mewn cydweithrediad â swyddogion yn y saith awdurdod lleol.

Mae profiad ym maes hyrwyddo llenyddiaeth yn angenrheidiol ynghyd â’r gallu i deithio ledled ardal y Cymoedd.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 1af o Fehefin 2007
Dyddiad cyfweliadau: Dydd Iau 28ain o Fehefin 2007

Manylion gan:
Peter Finch
Prif Weithredwr
Academi
Tw Mount Stuart
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd   CF10 5FQ
post@academi.org www.academi.org