Awduron Cymru








Dyma restr o awduron Cymru. Mae’r manylion yn cynnwys crynodeb o wybodaeth fywgraffyddol a llyfryddiaethol, profiad dysgu fel tiwtor ac unrhyw waith arall ym maes ysgrifennu creadigol. Gellir cael manylion bywgraffyddol pellach gan yr awdur ei hun, neu oddi wrth y cyhoeddwr. Cynhwysir lluniau o rai awduron a gellir darllen enghreifftiau o’u gwaith wrth glicio ar y cyfeiriad priodol yn y cofnod.
Os bydd awdur wedi cytuno i gymryd rhan yng nghynllun Awduron ar Daith yr Academi - ac i fod ar gael ar gyfer darlleniadau, gweithdai neu ddarlithoedd - nodir manylion cyswllt yr awdur, gyda chaniatâd yr awdur. Os nad yw awdur yn dymuno bod ar gael ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus yn gyffredinol, ni chynhwysir eu manylion cyswllt; fel arfer fe allwn gynnig danfon llythyr neu e-bost ymlaen at yr awdur. Mae’r rhan fwyaf o awduron yn rhoi darlleniad neu ddarlith o dro i dro, hyd yn oed os nad ydynt yn dymuno bod ar gael yn gyson ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus.
Mae croeso i awduron sydd yn dymuno cael eu cynnwys yn y rhestr gysylltu â ni. Rydym yn croesawu syniadau am enwau pellach i’w cynnwys. Mae’r rhestr yn cael ei diweddaru’n gyson gydag unrhyw newidiadau ac ychwanegiadau. Cysylltwch â ni: post@academi.org
Am fanylion pellach am gynllun Awduron ar Daith yr Academi, cliciwch ar y botwm Noddi Digwyddiadau yn y ddewislen ar y chwith.
Sut i ddod o hyd i awdur
Cliciwch ar y botwm Rhestr o Awduron
Mae yna dair ffordd i ddod o hyd i awdur - naill ai drwy chwilio enw, genre neu drwy glicio ar lythyren o’r wyddor isod.
1) Teipio enw awdur yn y blwch. Cliciwch "Anfon"
2) Dewis naill ai ’barddoniaeth’, ’rhyddiaith’, ’drama’ neu ’storïwr’. Cliciwch "Anfon"
3) Cliciwch ar lythyren o’r wyddor i ddod o hyd i’r holl awduron sydd â’u cyfenwau yn dechrau â’r llythyren hynny.


