Bardd Cenedlaethol Cymru


Am ei gwaith
Mae Gillain yn fardd, dramodydd, golygydd a chyfieithydd. Dysga ysgrifennu creadigol i bobl o bob oed ac fe astudir ei gwaith gan fyfyrwyr ar draws Prydain. Mae wedi teithio’n helaeth yn darllen a thrafod ei gwaith ac fe gyfeithwyd ei gwaith i ddeg o ieithoedd. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae At the Source (Carcanet), A Recipe for Water (Carcanet), The Sundial (Gomer), Selected Poems (Carcanet), Five Fields (Carcanet) a Making Beds for the Dead (Carcanet).
Dywed Dr Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae Gillian Clarke wedi bwrw’i chrefft ar hyd y blynyddoedd i greu corff o waith sy’n ymdrin â phynciau mawr y bod dynol, yn ogystal â chanu am Gymru a’i phobl. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n falch iawn i noddi bardd mor nodedig â Gillian fel ein trydydd Bardd Cenedlaethol.”
Dywed Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi: “Mae’r swydd Bardd Cenedlaethol Cymru yn gofyn am allu i gyfathrebu ac i ysgrifennu gwaith o safon ac yn reolaidd. Gillian Clarke yw un o’n beirdd amlycaf, a hi yw’r person gorau ar gyfer y swydd hon.”
Ewch i wefan Gillian Clarke yma.
Croesawu’r Bardd
Cynhelir dau ddigwyddiad i groesawu Gillian i’w swydd newydd. Bydd y cyntaf am 7.30 pm nos Fercher 16 Ebrill yng Nghapel Moreia Llanystumdwy, ar y cyd â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a’r ail am 6.30 pm nos Wener 18 Ebrill yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.


