Bardd Plant Cymru

Bardd Plant Cymru - Twm Morys

Codwch Eich Het i Fardd Plant Cymru 2009-10

Twm Morys

 
Ar ddiwedd y cystadlu, mewn seremoni ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Bae Caerdydd, cyhoeddodd Ifor ap Glyn, Bardd Plant Cymru 2008-2009 mai Bardd Plant Cymru 2009-20010 yw Twm Morys o Lanystumdwy.
 
Mae Twm Morys yn adnabyddus iawn fel bardd, canwr, darlledwr a cholofnydd. Cafodd ei eni yn Rhydychen a’i fagu yn Llanystumdwy, lle mae bellach wedi ymgartrefu gyda’i wraig a’i blant. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn yn 2003 ar y testun Drysau.  Mae’n aelod o dîm Talwrn Y Tywysogion ac yn canu gyda’r grŵp Bob Delyn a’r Ebillion. Mae ei gyhoeddiadau’n cynnwys: Ofn Fy Het (Barddas, 1995), Triawd Machynlleth (gyda Jan Morris; Viking, 1994), Eldorado (gydag Iwan Llwyd; Gwasg Carreg Gwalch, 1999), 2 (Barddas, 2002).
 
Cynllun ar y cyd rhwng yr Urdd, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru a’r Academi yw Bardd Plant Cymru. Yn ogystal â Twm ac Ifor, y beirdd sydd wedi derbyn yr anrhydedd yn y gorffennol yw Caryl Parry-Jones, Gwyneth Glyn, Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Ceri Wyn Jones, Menna Elfyn, Mei Mac a Myrddin ap Dafydd.

Meddai Twm:
“Ers blynyddoedd bellach, rwyf yn ymweld ag ysgolion, weithiau efo criw o feirdd o gyffelyb fryd, i sôn am farddoniaeth, ac i greu barddoniaeth efo’r plant.
 
Ond rwyf wedi sylweddoli ers sbel mai’r gwaith mwya’ gwerthfawr yr ydan ni’n ei wneud ydi rhoi hyder i’r plant. Hyder i fynegi eu hunain, a hyder i berthyn. Gwneud yr iaith yn bêl rydan ni, ac wrth chwarae efo honno, mae’r plant (heb yn wybod iddyn nhw) yn dysgu geirfa a gramadeg, hanes eu plwy nhw, hanes Cymru, hynt a helynt y byd!”