Bardd Plant Cymru

Ymweliadau ag Ysgolion

Yn ystod ei flwyddyn fel Bardd Plant Cymru, mae Caryl yn ymweld ag ysgolion ledled Cymru.  Dyma rhai o’r cerddi a ysgrifennwyd yn rhai o’r gweithdai hyn:

Fy Llyfr Mathemateg - Porffor

Mae fy llyfr Mathemateg yn borffor,
Mae fy llyfr Mathemateg yn llawn
O symiau cas ac anodd
A rhifau diflas iawn.

Beth alla i wneud heddiw
I wneud y llyfr piws hwn
I edrych fel peth hyfryd?
Daw syniad nawr mi wn!

Mae’n flanced hir o Glychau’r Gôg,
Yn glwstwr o rawnwin melys,
Mae’n ‘aubergine’ sy’n sgleinio’n braf,
Mae’n finlliw ar fy ngwefus.

Mae’n blwmsen tew, yn ffigys iach,
Yn glogyn smart brenhinol
Ac wrth i mi dy agor di,
O! plîs bydd yn ddiddorol!

Ond dwyt ti’n ddim ond clais i mi
Yn salw ac yn brifo,
Does dim un blodyn nac un ffrwyth
O’m mlaen i – dim ond rhifo!

Gan Aimee, Megan, HollyMc., Tia, Layonie, Mason
Ysgol Gynradd Bro Eirwg, Caerdydd

Bore Newydd - Pinc

Mae’r bore newydd ei eni,
Babi annwyl a chymylau fel bochau fy chwaer fach,
Fel candi fflos ar lyn glas,
Yr awyr fel carped o betalau a blagur
A’r dydd yn deffro.
Croen babi bach mewn blanced esmwyth
A moch bach hapus yn neidio ac addurno’r nen.

Fel fy chwaer fach binc
A’i gwefusau sws,
Mae’r bore bach,
Y rhosyn sgleiniog,
Yn dweud “Bore Da”.

Gan Tom, Molly, Emily, Morgan, Cariad, Amilia, Meredith.
Ysgol Gynradd Bro Eirwg, Caerdydd

Y Ddraig Goch

Ein baner…
Y Ddraig yw gwaed y Cymry,
Y Ddraig yw calon ein gwlad,
Tân o’i cheg yn poeri fflachiadau
A’i fflamau yn twymo corff y Genedl
Pob crys coch yn gweiddi “Cymru”,
A phob curiad o bob calon
Yn pwmpio balchder ynon ni i gyd,
Ein baner
Sy’n ein tywys
Drwy dd?r a thân
Ein baner
Yw ein gwlad
Ein baner
Ydyn ni

Gan Daniel, Rebecca, Annabel, Owen, Elie, Celyn.
Ysgol Gynradd Bro Eirwg, Caerdydd

Diwrnod Braf – Glas

Mae’r haul fel pelen o dân
Ac mae’r awyr yn gwisgo’i jîns!
Mae’r pelydrau yn ymestyn aton ni
Yn wincio arnon ni.
“Hei, dewch mas i chwarae,
Mae’n ddiwrnod braf
Ac mae’r timau glas i gyd yn chwarae heddiw,
Ar y maes glas mawr yn yr awyr
Chelsea
Y Gleision
Y Bluebirds
Man City
Reading
Yr Alban
Yr Ariannin
Yr Eidal
… Mae nhw i gyd yma – “
Mae’r nen fel pwll nofio ben i waered,
Ac mae’n amser
I ni sgorio
Gôl enwog,
Y canlyniad gorau yn y byd
Sef
Diwrnod braf!

Owain, Siôn, Jack, Jordan, Chrystelle, Lewis.
Ysgol Gynradd Bro Eirwg, Caerdydd

Criw Crezi Crymych

Roedd Owen yr octopws ofnus
Yn byw mewn braw yn ei fyd
Yn crynu wrth weld y pysgod bach
A’i wyth coes fel jeli o hyd.

Bethan y bab?n boring
Yn mynd mlaen a mlaen drwy’r dydd
Yn clebran am fananas a dim byd mwy
Iddi hi dim ond un pwnc sydd.

Ellis yr estrys enwog
Ffrind gorau i Beckham a Habana
Ei wejen yw Katherine Jenkins
Ac mae’n wisgo Dolce a Gabbana

Louise y lama l?pi
Mae hon wir off ei phen
Mae’ boncyrs, yn nyts, yn cwcw, yn ddwl
O’r nefoedd gawn ni help plis? Amen.

Cari y cranc cyflym
Yn rasio fel roced ar hyd lle
Yn glouach na Shane a Kelly Holmes
Ond yn anffodus, wastad yn mynd i’r dde.

Emyr yr eryr egniol
Yn llenwi ei fola ag Es
Yn codi pwysau, yn mynd i’r gym
Ac yn bencampwr ar gampau’r trapiz

Sam y spaniel speitlyd
Yn chwarae triciau cas
Yn dwyn esgyrn wrth gi sy’n llai nag e
Rhyw ddydd, gaiff ei ddala mas.

Mrs Howells yr hipo hyderus
Yw bos y criw bach hwn
Yn gweiddi yn sgrechian fel gwdi?
Ond mae werth y byd yn grwn!

Felly os ewch chi byth i Grymych-
Dewch i gwrdd â ni
Fe gewch chi sioc i’n gweld ni gyd
Ond jawch, fe gewch chi sbri!

Dosbarth 7s
Ysgol y Preseli

Cerdd Cadi a’r Criw

Mae hi’n blaguro,
Blodau pinc eu bochau iach
Yn gwenu yn ei gwanwyn cynnar.
Ymestyn a thyfu o ddydd i ddydd
Cyn ffrwydro i mewn i’r haf.

Daw cynhesrwydd yr haul
I’w hannog trwy gyfnod hapus
I ddenu ei phrydferthwch
A’i lenwi a gwyrddni ieuenctid.

Cwymp dail y blynyddoedd
Yn anorfod yn awel fain ei Hydref
Crebachlyd a chrin yw’r croen tenau
A’r bochau bellach yn byllau llwyd.

Gwyn, gwyn ei gwisg gaeafol
Yn amdo rhewllyd amdani,
Y breichiau a fu’n chwifio a chanu
Yn gaeth dan glogyn amser.

Cadi a’r Criw: Cadi Nicholas, Hanna Thomas, Sioned Llewellyn, Ffion Taverner, Ffion Williams, Cerys Harries, Sion Savins, Matthew Davies, Chris Jones.  (Blwyddyn 8, Ysgol y Preseli)

Y Môr

Mae’r blanced glas yn mwytho’r tywod,
A’r tonau bach yn dawnsio ger y lan,
Eu brodyr mawr yn curo ar y creigiau,
A phelydrau’r haul yn troi’r byd
Yn drysor aur.

Dolffiniaid yn dawnsio yn y dyfnder,
Ceffylau’r môr yn clebran a chwerthin,
Cranc yn  crensian ar hyd y cregyn,
A’r pysgod prydferth yn plymio i’r glesni.

Gwylan wen yn gwylio’r sioe,
A chrwbanod chwilfrydig yn dod mas i weld y byd,
Y d?r yn dadlau gyda’i hun yn undonog,
Triongl o adar yn huno-hedfan,
Wedi eu taith hir o bendraw’r byd.

Ac wrth i’r lli sibrwd ei hwiangerdd
A siglo cwch unig i gysgu,
A’r tonau yn tawelu eu tiwn hypnotig,
Fe ymlaciwn ni i guriad calon y môr.

Ysgol Cwmbran 

Parri’r Parot Porffor

Roedd Parri’r Parot Porffor
Yn byw ar ei ben ei hun,
Mewn caets fawr, borffor brydferth
A doedd e beth yn flin.

Yr oedd ei fyd yn borffor,
Ei big, ei grib, ei blu,
A dweud y gwir roedd popeth,
Yn borffor yn ei dŷ.

Roedd ei siglen fach lliw pansi,
 A’i ddrych lliw mwyar duon,
Ei gyrtens eirin,papur tywod grawnwin,
Yn grêt i’w  biws bartïon.

Gyda Fioled y bwji,
Ac Iris y cocat?,
A Ffigys a Phlwmsen yr adar serch
A Betys y gwdih?.

Ac yn y byd bach porffor 
Dim ond un lliw oedd i gael,
Pob coeden, llyfr a chacen ,
A hyd yn oed yr haul.

Roedd yn paentio ei grafangau,
Gyda nail varnish  lliw gwin
A phan yn paentio dim ond piws
Oedd lliwiau bob un llun. 

 Os gwrddwch  chi â pharot piws,
Yn biws o’i ben i’w gynffon,
Gofynnoch “Ife Parry wyt ti?”,
Ac fe ddewch chi’n syth yn gyfeillion!

Ysgol Cwmbran 

Haul a Thywod

Mae’r Cennin Pedr mawr yn canu,
Mae’r pelydrau mêl  i gyd  yn tywynnu,
Mae ei blanced aur yn fy nghynhesu,
A’r gwylanod gwynion i gyd yn canu.

Mae cwrlid esmwyth glân y tywod,
Yn twymo dan wres Brenin y gofod,
Sy’n hoffi rhoi ei gynnes faldod,
Y darn punt anferth yn disgleirio’n hynod.

A heddiw dan ei braf oleuni,
Llygad mawr sy’n gyfaill i mi,
A’r sidan glas sydd iddo’n  wely,
Yn taflu ei liw ar flodau’r heli.

Ac wrth i ni gyd droi am adre,
Mae’r belen aur yn suddo i rywle,
Atlantis? Y Gorwel? Y Dyfnder? Y Gwagle?
Dim ond am noson – daw yn  ôl yn y bore.

Ysgol Cwmbran

Ar Lan y Môr

Mae’r môr yn galw,
Mae’r tywydd yn braf
Mae’r awyr yn las
Mae’n ddydd o Haf.

Mae’r cregyn yn crensian o dan fy nhraed a’r tywod yn garped aur.
Mae’r peledrau o haul yn gwenu’n llon
A’r tonnau’n rhoi herc, cam a naid.

Mae’r haul yn cusanu ein wynebau i gyd
A’r môr yn cynhesu fy nghalon
A phan af fi i lan y môr,
Dyw diwrnod byth yn ddigon!

Ysgol Pencae

Ystlum

Ystlum blin
Ystlum trist
Yn hedfan i ogof dywyll
Glaw yn cwympo fel inc du i fedd y môr,
Anghenfil o storm
Yn rhuo’n ddychrynllyd,
Fflachiadau’r mellt
Yn sgerbydau  cas.
Yn goleuo ofn y nos am eiliad.
Brigau’r coed yn ddwylo’n ymestyn ata i,
A phob un yn troi yn darantiwla dros dro
Pob creadur yn chwerthin yn fileinig
A phopeth yn waeth ym mynwent y nos.

Pen Tomato Coch!
Mae mhen yn mynd yn goch,
Mae fy ymenydd yn mynd yn grac!
Rwyf eisiau llosgi a llosgi
 Mae fflamau yn codi!!
Dw i eisiau rhedeg dros y lle yn taflu tomatos!
Gwyliwch mas bawb
Dwi’n dod a dwi’n
FFRWYDRO!

Ysgol Pencae

Fy Mrawd Bach

Mae fy mrawd yn fy ngwneud yn grac
Rwy’n boeth fel tân gwyllt,
Eisiau ffrwydro dros y lle
A dros fy mrawd!!

Ysgol Pencae

Aur

Y fodrwy fawr
Yn addurn yn y nen
Yn gwenu’n gynnes, hapus
Yn ddisglair fry uwchben.

O dan fy nhraed
Mae siwgr brown, mân, mân
Yn cosi bob un bodyn
Yn gae o aur o ‘mla’n.

Y syrffwyr dewr
Yn smwddio’r tonnau gwyn
A’r cregyn bach yn crensian
Gan edrych arna i’n syn.

Y cwrel gwych amryliw
Y seren fôr fach dlos
A mil o sêr ar wyneb y d?r
Yn wincio yn y nos.

Y fodrwy fawr yn mynd i lawr
Ar ôl diwrnod da o waith
Gan adael yn ei gwres
Drysorau crand y traeth.

Ysgol Gynradd Felinfach  

Llwyd

“Llwyd! Llwyd! Mae popeth yn llwyd”
Meddai’r Eliffant wrth y Reino
“Wi wedi cael digon o’r lliw trist hwn”
Meddai’r Llygoden wrth yr Hipo.

“Mae’n ddiflas, yn ddwl, yn oeraidd”
Meddai’r Morlo wrth y Siarc
“Pam na chawn ni ddillad lliwgar
Er mwyn i ni adael ein marc?”

“Rwy eisiau bod fel Parot
Meddai’r Wiwer wrth y Llygoden,
“Lliwgar, crand, smart a balch”
Llefodd y Falwoden.

“Mae’r Titw a’r Ceilog a’r Ffesant a’r Paun
I gyd yn llawn patrymau!”
Dywedodd yr Asyn wrth y Pryfyn bach
Yn afon llwyd eu dagrau.

“Mae gen i syniad hollol wych!”
Dywedodd y Gwningen
“Mae enfys yn yr awyr draw
Fel bwa yn yr wybren…

Beth am sefyll o’i flaen yn awr
Yn griw cytun, cyfeillgar
Ac fe drown ni ein byd bach llwyd
Yn fyd mawr hapus, lliwgar!

Ysgol Gynradd Felinfach

Gwyrdd

Mae’r gwely yn gwch
Sy’n siglo’n ddi-reolaeth
Mewn storm swnllyd,
ddrewllyd
A minnau mor wanllyd

Bwyd yn bocsio yn y bola
Yr ystafell yn chwyrligwgan
A fy stumog yn beiriant golchi
Rwy’n chwysu
Ac yn chwythu.

Gyda fy mhen yn rowlio, rowlio
Fel pêl bowlio deg
Ac yna’n ffrwydro fel y tân gwyllt hynny
Sy’n dirgrynnu
Tra’n fy nyrnu.

Mae’r croen yn troi’n lliw mwswg
A’r gwallt yn sosban saim
A minnau’n teimlo’n ddiflas
Ac yn edrych yn wyrdd-las
Sa i’n moen mynd mas!

Ysgol Gynradd Felinfach

Penillion Plant Ysgol Llanwnnen

Aeth Kate y Koala C?l
I siopa am bling i Lambed
Fe brynodd goron a mini sgyrt
Cyn mynd i Conti’s am baned.

Roedd Emma yr Eliffant Enwog
Yn enwog drwy’r byd i gyd
Fe ganodd yn Las Vegas
Gan gwrdd â Tom ‘run pryd.

Mae Rhian y Rheino Rapllyd
Yn D.J. arbennig wir
Ei decs yw ei thraed crwn anferth
A’i meic yw ei chorn mawr hir.

Mae Ffion y Ffesant Ffwslyd
Yn ffysan bob munud o’r dydd
Yn cribo’r holl blu sydd arni
Hyd yn oed y rhai sy’n gudd.

Cymrodd Hanuman yr Hwyaden herciog
Foddion at ei wynegon,
A nawr mae’n chwarae ar y wing
‘Da Ronaldo ym Manceinion.

Hannah yr Hyena Handi,
Plymyr gore’r byd
Yn rhoi peips yn y Serengeti
A nawr mae’n dd?r i gyd!

Mae Ffion y Ffwlbart ffansi
Am briodi’r hen George Clonney
Ei chyn wŷr yw Gethin a Brad Pitt
A Beckham a Wayne Rooney.

Aeth Cerian y Crwban cloi
I’r Olymics i gystadlu
Fe wnaeth y sprint a’r marathon…
‘Na biti iddi faglu.

Mae Ellen yr Epa Egwan
Yn dioddef yn y gwely
Does ganddi hi ddim nerth ar ôl.
Mae’n dda i ddim – ‘na biti.

Mae Sophie y Seren Fôr sili
Yn glown o dan y don
Mewn syrcas dan y môr mawr mwyn
Mae’n cadw pawb yn llon.

Roedd Gareth y Gorila Gwyrdd
Yn wyrdd am reswm da,
Fe fwytodd ormod o frocoli
Cabej, pys a ffa.

Ryan yr Orang Utan r?d
Yn dangos ei ben ôl
Sy’n goch fel hen domato
Yn sgleinio dan ei gôl.

Twm y Teigr Twp tawel
Bydd yn crafu nac yn rhuno
Dim ond cysgu, cwmpo, crwydro’r tir
Anghofio jôcs ac udo.

Ysgol Llanwnnen

Diwrnod o haf

Yn yr haf rwy’n mynd ar daith
Gyda mam a dad i’r traeth
Tywod cynnes yn goglais fy nhraed
A’r tonnau mân yn rhoi herc, cam a naid.

Yr haul yn ddisglair uwch fy mhen
Fel pêl fawr felen yn y nen
Bal?n o aur yn hofran fry
Yn rhannu goleuni â thi a mi.

Pelydrau pres yn tywynnu’n braf
A’i gwên yn gynnes ar ddydd o haf
Ac wrth i’r haul ein gadael ni
Daw’r dydd i ben - am hwyl a sbri !

Lolly, Rhys Iorwerth, Ruth, Tristan Wyn, Tristan a Jordan
Ysgol Penuwch

 Machlud Haul

"Wela’i chi fory " meddai’r haul wrthym ni
Wrth iddo suddo i’r mynydd mawr.
Tân gwyllt yr awyr yn dweud "Nos Da" ,
Rhosyn anferthol , tomato rhyw gawr.

Gwaed yn yr awyr ac mae’r byd ar dân
Oren a phorffor a phinc fel un,
Brwsh yr artist wedi peintio’r nen
A lliwiau llachar yn llenwi’r llun.

Brenin o lafa’n teyrnasu y byd
A’i wres yn llosgi ein dyddiau hud
Ac wrth i’r nos ddod yn nes ac yn nes
I ffwrdd â’r haul a’i wên a’i wres.

Mae’n mynd ar daith i ben draw’r byd
Filltiroedd maith i’r gwledydd i gyd
Ond ar ei ffordd fe wna ei ore
I ddod yn ôl pan ddaw y bore.

Seren, Fflur, Emily, Nerys, Nancy, Shelton a  Alec
Ysgol Penuwch

Cân y tonnau yn hwiangerdd dawel,
Y tywod cynnes yn fatras clud
Llenni bach gwyn yn dawnsio’n ysgafn yn yr awel
Yr awyr las yn gwrlid ysgafn,
Carreg wastad yn botel dd?r poeth
Ymbrelos lliwgar yn cysgodi’r lamp
A’r haul yn fwlb anferthol ysgafn
Hen blanhigyn yw’r gwymon gwyrdd
A’i hwfer yw hwnna? Na morfil mawr!
Ac wrth i alaw’r heli fy suo
Daw cwsg i’m cario ac rwy’n cwtshio mewn i’r gwres.

Ryan,  Adam, Gwyndaf, Billy, Conor a Ross
Ysgol Penuwch

Coch

Fflamau’r ddraig yn berwi’r pair
Yn poeri gwres i bob cyfeiriad,
O’i cheg anferthol daw’r nerth i’r fyddin goch,
Calonnau yn curo fel drymiau gwyllt
Pob baner yn chwifio cyffro
A phob un yn dal llygaid yr arwyr
Sy’n barod i ymladd yn ffyrnig
Chwiban,
Cic,
Daliad,
Rhediad,
Tacl,
Pas,
Pas,
Pas.
Pas.
CAAAAIS!
Y Pair yn ffrwydro
Gwreichion yn tasgu,
Cefnogwyr yn wyllt wrth weiddi,
“CYYYMRUU”
…am byth!

Blwyddyn 5, Ysgol Y Berllan Deg
 
Glas

Mae’r niwl wedi disgyn
Bob dydd ers i ti fynd
Rwy’n nofio mewn pwll o unigrwydd
Dere nôl ata i fy ffrind.

Mae’r tristwch yn llifo fel y glaw
Mae nghalon fach yn torri
Tyrd nôl fy ffrind, a dere draw
Mae’r dagrau yn fy moddi.

Mae’r haul wedi mynd i guddio nawr
Mae’n dywyll heb dy gwmni
A dim ond dy gyfeillgarwch di
Sy’n gwneud i’r heulwen wenu.

Heb dy gwmni does dim toriad gwawr
Mae’r dyddiau’r ddiflas , hir
A ddaw yr Haf byth adre nawr
Heb dy gwmni – a dyna’r gwir.

Blwyddyn 5, Ysgol Y Berllan Deg
 
Nos a Bore

Mae’r nos wedi dod
Mae’r gole bant
Mae’r cysgodion ‘di cyrraedd
Dyma nhw fesul cant.

Pryfaid copyn yn hongian
O’r nenfwd du,
A gwrachod yn dod
O bob twll yn y tŷ.

Dw i mewn bola buwch
Ac yn gweld dim byd
Ond mae chwerthin ysbrydion
Yn fy nghlustiau o hyd.

Mae clogyn du’r nos
Fel blanced glo
A mil o ystlumod
Yn disgyn o’r to.

Ond pan ddaw y bore
Yn ddisglair ei olau
Mae’r ofn yn mynd heibio
Fel hyn mae hi orau.

Blwyddyn 5, Ysgol Y Berllan Deg

Ysgol Y Berllan Deg

Fe aeth wyth Gwanwyn ers plannu’r hedyn cyntaf,
Daeth y glaw a daeth yr haul i fwydo’r gwreiddiau iachaf,
Ac wrth i’r gwreiddiau hynny dwnelu’n ddwfn i’r ddaear,
Fe dyfodd y canghennau ac fe glywyd cân yr adar.

Wrth i frigau ein Cymreictod flaguro drwy’r tymhorau,
Fe aeth yr iaith ar waith ac ar wibdaith ar y golau,
Ac wrth i fforest ddeilio’n gryf yn heulwen ein tywydd teg,
Daw cangen ar ôl cangen i Goed y Berllan Deg.

Blwyddyn 5, Ysgol Y Berllan Deg

Yr Haul

Mae’n ddiwrnod braf
Ac mae’r haul fel punt anferth
Yn disgelirio’n hapus.
Pelydrau fel bysedd o dân
Yn dawnsio o amgylch y fodrwy fawr
Ei golau yn neidio ar wyneb y d?r
A’r môr yn troi yn focs trysor.
Tlysau aur a diemwnt
Yn wincio arnon ni o’r heli,
A’r Brenin Berwedig
Yn ei goron gyfoethog
Yn fodlon ei fyd
Yn yr awyr euraid.

Ond pan mae’r haul yn mynd i’w wely
Pan mae’r pelydrau i gyd yn cysgu,
Mae’r awyr yn gwisgo ei glogyn melfed du
A’r diamwntiau, a’r gemau a’r holl drysorau
Yn codi o’r môr
I addurno’r awyr
Fel coeden Nadolig
A’i goleuadau gwyn, gloyw
Ac ar ben y cwbl
Mae’r dyn yn y lleuad
Yn gwisgo ei darian arian,
Fel cryno ddisg yn chwarae miwsig y nos
I rhythm y tonau tawel,
A’r golau o’i lusern
Yn creu llwybr lledreithiol,
Heol hudol
O’r erwau yn yr awyr
I’r milltiroedd ar y môr.

Ac wrth i’r lloer deithio’n dawel
I bendraw’r byd,
Daw’r haul yn hapus yn ei ôl
Ac mae olwyn bywyd
Yn symud yn ei flaen!

Blwyddyn 5, Ysgol Y Berllan Deg

Byd Porffor Polly

Roedd Polly’n hoffi porffor
Porffor oedd ei byd
Porffor oedd ei dillad
Yn cerdded lawr y stryd

Porffor oedd ei beic,
Porffor oedd ei thŷ,
Porffor oedd ei chas pencil
A phorffor oedd ei chi!

Porffor oedd ei ffrog
A phopeth roedd yn ei wisgo
I fynd i’r siop, neu’r ffair neu’r dre,
I’r capel neu i’r disgo.

Porffor yw ei phyjamas
Mae’n amser mynd i’r gwely
Caewch y drws mawr porffor,
Helo Mistar Tedi!

Ysgol Pwll Coch

 Coch

Mae’r faner goch yn chwifio fry
I’r bois sy’n brwydro drosom ni,
Mae’r dorf yn canu’r anthen yn gry
A’r ddraig yn rhuo i ti a mi.

Mae’r tân yn llenwi’r maes i gyd,
Wynebau cochion yn chwysu o hyd,
Does dim arall yn y byd
Sy’n gallu dod â ni ynghyd

Mae gwaed yn  berwi wrth i ni frwydro
A’r dorf fel dreigiau gwyllt yn rhuo,
Y fflamau coch i gyd yn rhuthro
Drwy’r  wythennau’r pair, sy’n ffrwydro
 

Mae’r  pwyntiau  ar y bwrdd yn codi
A’r galon goch  yn gweiddi  “Cymru!”,
Un cais arall , mae’r lleisiau ‘n  gweiddi…
Mae Cymru i gyd yn gwenu  heddi.

Ysgol Pwll Coch

Glas

Mae’r wawr yn torri yn Paris bell
Y crysau glas yn deffro
Mae’r dorf yn rhuo fel taranau a mellt
A’r “Mexican Wave” yn crio

Mae’r crysau glas fel tonnau’r môr
Ar crysau glas golau fel afon
A’r don fawr las yn y Stade de France
Yn rhoi pawb ar ben eu digon.

Ond mae’r tywyll a’r  golau yn awr yn gylch
Yn gymysgedd chwyslyd glas,
Yr awyr yn edrych fel cefnfor dwfn
A’r maes yn troi yn gas.

Pump pwynt fan hyn a tri phwynt fan draw
Y Stade de France yn bwll o ddagrau
Maer cais ar trosiad yn ddigon nawr
A Ffrainc wedi colli ei harfau!

Ysgol Pwll Coch

Pinc

Daeth diwedd dydd,
Yng nghanol haf,
Ac mae’r awyr
Yn gwrlid pinc.

Cymylau meddal candi fflos,
Yn hedfan drwy‘r awyr.
Tafod hir yn ymestyn,
I flasu’r candi,  braf o haf.

Awel dawel y nos
Yn ymuno yn y dawnsio.
Y brigau tal i gyd
Yn gwneud eu dawns bale.

Siapiau adar yn yr awyr
Y bore canlynol fydd i gyd yn dawel.s
Y sêr ar lleuad yn mynd i grwydro,
A gwefusau pinc yn cusanu’r bore.

Ysgol Pwll Coch

Cliciwch yma i ddarllen mwy o gerddi