Bardd Plant Cymru
Coch
Noson Tân Gwyllt
Tachwedd y pumed,
Mae’n Noson Tân Gwyllt
Ac mae cyffro yn ffrwydro’n yr awyr,
Mae’r gwreichion yn neidio,
Yn gwylltio a dawnsio
A’r synhwyrau yn mynd ar eu hantur.
Llygaid llon ar y lliwiau llachar
Yn synnu ar batrymau’r nen,
Rocedi’n rhuthro, yn blastio, yn ffrwydro
Fel miliwn o sêr uwch ein pen.
Coelcerth yn clecian yn y clustiau bach
A’r tân yn hisian yn hy,
Sgrechiadau, ffrwydriadau,
Ebychiadau, chwibannau
Yw swyn a synau ein sbri.
Blasu mwg mewn noson o niwl
Yn gymysg â byrgyr a thaten,
A’r geg yn glafoerio dros sglodion o saim
Tra’n llowcio awyrgylch y wybren.
Arogl tân yn llithro’n llyfn
Fel neidr o’r fflamau i’n trwynau,
Pob selsig a thaffish a thaten bôb
Yn rhuthro i lenwi ein ffroenau.
Teimlo’r mwg yn mwytho’r croen
A’r gwlân yn gynnes ar ddwylo,
A theimlo’r cyffro yn cwtcho lan –
Mae’n Noson Tan Gwyllt heno!
Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe
Pedwar Tymor Ray
Ef oedd y Dderwen gref yn flagur i gyd,
A phob dydd fel gwanwyn braf yn ei gwmni,
Aur y genhinen pedr yn disgleirio yn ei galon,
A’r byd yn d’uno i ddweud “Bore da Ray”.
Grav oedd yr Haf,
Ei wên fel heulwen
A gwres ei gwmni yn twymo pawb.
Môr o ffrindiau yn y pedwar ban
Ac awr gyda Grav
Fel gwyliau cynnes braf.
Y Sgarled enfawr
A’i wisg fel dail yr Hydref
A’i gariad yn goelcerth garlamus
Drwy Gymru i gyd.
Roced liwgar,
Yn bwrw gwreichion o hapusrwydd,
A’i galon fel Olwyn Catrin,
Yn troi at bawb.
Ond fe ddaeth y Gaeaf
Ac mae Cymru nawr yn llwm;
Ond mae cannwyll calon Grav
Yn dal i oleuo a chynhesu;
Ei gwmni oedd yr anrheg gorau
Nos da Grav
A diolch am fod yn ffrind.
Blwyddyn 5 a 6 Ysgol Trimsaran
Nadolig Lliwgar Ysgol Llechyfedach
Gwyn
Angel annwyl yn ariannu’r goeden,
Seren sgleiniog yn sefyll uwch y stabl,
Pluen eira fel pili pala’r Gaeaf,
Cwmwl o farf yn addurno’r Hen Ddyn Enwog,
Dyn eira doniol yn amddiffyn y tŷ
Ac oerni gwyn y Gaeaf yn cynhesu’r coed.
Gwyrdd
Mae’r hen ffrind yn ei hôl
Yn sefyll yn syth a stond yn ei safle sbesial.
Ei breichiau gwyrdd yn ymestyn mas
I gwtcho blwyddyn arall,
Ar ei un goes frown
Yn falch i’n gweld ni.
Mae’n hapus yn ei chornel
Yn ei dillad newydd sbon-
Tinsel amryliw,
Peli sgleiniog,
A sêr bach letric yn wincio arni o bobman.
A’i hêt ? Y Dylwythen Deg Dawel yn disgleirio’n dyner.
“ Jiw’ Chi’n bert eleni, yr hen ffrind ! “
Aur
Mae cist trysor y Nadolig ar agor
A’r gole euraidd sy’n llifo ohoni
Yn twymo tymor arall.
Tinsel yn tywynnu, yn tincian ar y to.
Sêr sgleiniog yn gwarchod y goeden
A’r tlysau ar y brigau
Fel bling 50 Cent.
Y cylch uwchben yr angel
Fel modrwy aur mam,
A pheli eira aur yn gorffwys ar ganghennau.
Yr hosan yn orlawn o arian siocled
A’r papur aur yn fy nhroi yn frenin
Ac yn filionêr – dros dro!
Coch
Ceiriosen aeddfed ar drwyn Rwdolff
A’r aeron coch ar y celyn yn ddiferion gwaed,
Y Sgarlet mwyaf yn sgorio bob tro gyda’r plant
A’i wisg gyfarwydd yn arwydd amrisiadwy – “Mae o wedi bod ! “
Y twrci tew a’r llysiau lliwgar,
Yn gwynto’n ffein
A ni’n glafoerio cyn llenwi boliau !
Hosan goch yn llawn anrhegion bach
A gwres g?yl y Geni yn twymo’r galon
Ysgol Llechyfedach
Stephen Jones
Y llewpart llawen,
Yn llamu,
Subaru y Scarlets,
Y cawr coch cryf,
Yn y canol,
Llwynog y Strade
Yn twyllo’r tîm arall
A’r Cymro c?l yn arwr.
Blwyddyn 5 a 6
Ysgol Penboyr
Mae’r faner goch yn chwifio fry
I’r bois sy’n brwydro drosom ni,
Mae’r dorf yn canu’r anthen yn gry
A’r ddraig yn rhuo i ti a mi.
Mae’r tân yn llenwi’r maes i gyd,
Wynebau cochion yn chwysu o hyd,
Does dim arall yn y byd
Sy’n gallu dod â ni ynghyd
Mae gwaed yn berwi wrth i ni frwydro
A’r dorf fel dreigiau gwyllt yn rhuo,
Y fflamau coch i gyd yn rhuthro
Drwy’r wythennau’r pair, sy’n ffrwydro
Mae’r pwyntiau ar y bwrdd yn codi
A’r galon goch yn gweiddi “Cymru!”,
Un cais arall , mae’r lleisiau ‘n gweiddi…
Mae Cymru i gyd yn gwenu heddi.
Ysgol Pwll Coch
Glas
Mae’r wawr yn torri yn Paris bell
Y crysau glas yn deffro
Mae’r dorf yn rhuo fel taranau a mellt
A’r “Mexican Wave” yn crio
Mae’r crysau glas fel tonnau’r môr
Ar crysau glas golau fel afon
A’r don fawr las yn y Stade de France
Yn rhoi pawb ar ben eu digon.
Ond mae’r tywyll a’r golau yn awr yn gylch
Yn gymysgedd chwyslyd glas,
Yr awyr yn edrych fel cefnfor dwfn
A’r maes yn troi yn gas.
Pump pwynt fan hyn a tri phwynt fan draw
Y Stade de France yn bwll o ddagrau
Maer cais ar trosiad yn ddigon nawr
A Ffrainc wedi colli ei harfau!
Ysgol Pwll Coch
Pinc
Daeth diwedd dydd,
Yng nghanol haf,
Ac mae’r awyr
Yn gwrlid pinc.
Cymylau meddal candi fflos,
Yn hedfan drwy‘r awyr.
Tafod hir yn ymestyn,
I flasu’r candi, braf o haf.
Awel dawel y nos
Yn ymuno yn y dawnsio.
Y brigau tal i gyd
Yn gwneud eu dawns bale.
Siapiau adar yn yr awyr
Y bore canlynol fydd i gyd yn dawel.s
Y sêr ar lleuad yn mynd i grwydro,
A gwefusau pinc yn cusanu’r bore.
Ysgol Pwll Coch



