Beirniaid 2009
Llyfr y Flwyddyn 2009
Panel Beirniaid y Llyfrau Cymraeg
Gwyn Thomas
Luned Emyr
Derec Llwyd Morgan
Panel Beirniaid y Llyfrau Saesneg
Mike Parker
John Barnie
Tiffany Atkinson
Gwyn Thomas
Yn fardd toreithiog, beirniad, cyfieithydd a golygydd, mae’r g?r o Flaenau Ffestiniog wedi hen ennill ei blwyf yn y byd llenyddol. Bu’n athro yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor ac wedi ymddeol, fe’i ddewisiwyd yn Fardd Cenedlaethol Cyrmu.
Luned Emyr
Dramodydd a Sgriptwraig o Fangor yw Luned a hi enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn 1999, 2001 a 2003. Mae wedi astuidio yn y Coleg Ffilm Ewropeaidd yn Nenmarc a gwelir ei gwaith llenyddol yn gyson ar ddalennau Tu Chwith, Taliesin a Barn. Mae hi’n wyneb cyfarwydd ar S4C gan y bu’n cyflwyno Y Sioe Gelf a Dechrau Canu, Dechrau Canmol.
Derec Llwyd Morgan
Bardd a beirniad llenyddol o Gefnbrynbrain yw Derec. Fe’i addysgwyd ym Mangor a Rhydychen. Bu’n Athro’r Gymraeg a Phennaeth Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth hyd ei benodi’n Brifathro’r Coleg hwnnw ym 1995. Y mae hefyd yn Gyn–lywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.



