Beirniaid

Panel llyfrau Cymraeg

Siân Thomas

Siân Thomas
Dechreuodd Siân ei gyrfa ddarlledu yng ngorsaf radio Sain Abertawe, lle bu’n cyflwyno rhaglen pan oedd yn yr ysgol a’r coleg. Treuliodd ychydig fisoedd fel ymchwilydd yn nyddiau cynnar Radio Cymru, cyn ymuno ag S4C fel un o gyflwynwyr cyntaf y sianel.  Erbyn hyn mae’n cyflwyno rhaglen ddyddiol i Radio Cymru sy’n cynnwys cymysgedd o gerddoriaeth a sgwrsio difyr gan barhau i gyflwyno rhaglenni i S4C.

Huw Meirion EdwardsHuw Meirion Edwards
Bellach wedi ymgartrefu yn Llandre ger Aberystwyth, mae’n uwch–ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae’n awdur nifer o lyfrau ac erthyglau, yn bennaf ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol, ac yn un o olygyddion Dafydd ap Gwilym.net, sef y golygiad electronig newydd o waith Dafydd ap Gwilym. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 am ei gasgliad Tir Neb.

Aled IslwynAled Islwyn
Awdur, golygydd, adolygydd, tiwtor a chyfieithydd. Yn enedigol o Bort Talbot, mae wedi byw a gweithio yng Nghaerdydd am ran helaethaf ei oes.  Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym 1977. Enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn 1980 ac 1985; ac enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 1995 gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei gyfrol, Unigolion, Unigeddau.

Panel llyfrau Saesneg eu hiaith

Mavis NicholsonMavis Nicholson
Ganed yn 1930 ac mae nawr yn byw ym Mhowys.  Ar hyd y blynyddoedd, mae wedi dilyn sawl gyrfa amrywiol yn y byd hysbysebu a’r cyfryngau, ac mae bellach yn cyfrannu at y cylchgrawn The Oldie.  Cynhyrchodd y ffilm People Like Us (1996) sy’n dadansoddi sut y bu i farwolaeth ei rhieni o ganlyniad i’r clefyd Alzheimer’s newid ei bywyd.

Damian Walford DaviesDamian Walford Davies
Uwch-ddarlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.  Arbeniga ar lenyddiaeth cyfnod y Rhamantwyr, barddoniaeth y 19ed a’r 20ed ganrif, a dwy lenyddiaeth Cymru. Enillodd un o’i astudiaethau Wobr Foster–Watson yn 2003, ac enillodd ei olygiad, Waldo Williams: Rhyddiaith wobrau Ellis Griffith ac L. W. Davies yn 2002/3. Ef yw Golygydd Cyffredinol The Oxford Literary History of Wales.  

Trevor FishlockTrevor Fishlock
Awdur a darlledwr sy’n byw yn y brifddinas.  Roedd yn ohebydd ar gyfer The Times yn India, ac yn bennaeth swyddfa The Daily Telegraph yn Efrog Newydd a Mosgow.  Mae wedi cyhoeddi sawl cyfrol ac yn awr mae’n cyflwyno ac yn ysgrifennu ar gyfer y gyfres boblogaidd, Wild Tracks.