Beth sy’n gymwys?

Mae’n angenrheidiol:

1. Mai gwaith unigol yr awdur yn unig ydyw (gan eithrio darluniau a chyflwyniadau).
2. Mai’r cyhoeddiad cyntaf o’r gwaith (naill ai yn Gymraeg neu Saesneg) yn y flwyddyn sy’n rhagflaenu’r wobr ydyw.
3. Bod cynnwys y gwaith, yn sylweddol, yn waith na gyhoeddwyd yn flaenorol.
4. Bod y gwaith wedi’i ysgrifennu’n greadigol.
5. Bod y gwaith wedi’i gyhoeddi.

Yn ogystal, mae’n angenrheidiol i’r gwaith ateb o leiaf un o’r gofynion canlynol.

Rhaid iddo:

1. Fod wedi’i ysgrifennu yn Gymraeg;
2. Fod wedi’i ysgrifennu yn Saesneg gan awdur a anwyd yng Nghymru neu a dderbyniodd ei addysg yng Nghymru;
3. Fod wedi’i ysgrifennu yn Saesneg gan awdur na anwyd/na dderbyniodd ei addysg yng Nghymru ond sydd bellach
    yn byw yng Nghymru;
4. Fod yn gwbl eglur o ran ei berthnasedd i Gymru a’r diwylliant Cymreig. 

Nodyn am waith sydd wedi’i ysgrifennu’n greadigol
Ni ystyrir gweithiau cofiannol/hunangofiannol na gweithiau academaidd nad sy’n llenyddol oni bai eu bod yn dyrchafu ansawdd ysgrifennu yn y eu maes, er nad yw’r pwnc dan sylw yn arferol mewn gwaith creadigol.  Ceir enghreifftiau o’r gorffennol a’r presennol megis gwaith Jan Morris am deithio, gwaith Gwyn Alf am hanes a gwaith Jim Perrin am fynydda.

Diffiniad o waith sy’n gwbl eglur o ran ei berthnasedd i Gymru a’r diwylliant Cymreig
Ar rhai achlysuron, gellir penderfynu bod gweithiau sy’n trafod ac/neu sy’n ychwanegu at themâu a ymdrinnir â nhw yn aml mewn meysydd llenyddol Cymreig yn gymwys er nad oes gan yr awdur unrhyw gysylltiadau ieithyddol, preswyl na llencynnol â Chymru.

Nid yw gwaith a gyhoeddir o fewn blodeugerddi gan awduron niferus yn gymwys.

Nid yw cyfieithiadau yn gymwys oni bai y dyfarnir eu bod o bwysigrwydd sylweddol i lenyddiaeth Gymraeg sydd yn mynd ymhellach na’r hyn sydd yn bodoli o fewn fersiynau o’r deunydd gwreiddiol eisoes.

Mae beirniadaethau llenyddol yn gymwys cyn belled eu bod, neu y gellid dadlau’n gryf eu bod, yn berthnasol i Gymru a’r diwylliant Cymreig.

Nid yw sgriptiau’n gymwys.

Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch cymhwyster llyfr ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn, cysylltwch â’r Academi.