Beth yw’r Academi
Yr Academi Gymreig yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru.
Cewch gip ar Linell Amser yr Academi yma.

Gweithgareddau llenyddol
Mae’r Academi yn cynnal cystadlaethau, cyrsiau, cynadleddau, stompiau, gornestau beirdd v rapwyr, teithiau gan awduron, digwyddiadau Maes C, darlleniadau, gwyliau a nifer fawr eraill. Yr Academi sydd hefyd yn gyfrifol am brosiectau Bardd Cenedlaethol a Bardd y Brifddinas, ac yn ymwneud â chynllun Bardd Plant Cymru ar y cyd ag S4C, Urdd a Chyngor Llyfrau Cymru.
Cyfleoedd i Awduron
Etifeddodd yr Academi gyfrifoldebau’r Cyngor Celfyddydau Cymru dros Wasanaethau Awduron - sydd yn cynnwys ysgoloriaethau, cynllun mentora awduron, cyngor beirniadol a gwobr flynyddol Llyfr y Flwyddyn. Gall defnyddwyr y wefan hon fanteisio ar yr wybodaeth gynhwysfawr sydd ynddi - sef rhestr o gyhoeddwyr, gwybodaeth am gylchoedd trafod, sefydliadau o ddiddordeb i awduron, a chyngor ar asiantwyr llenyddol a’r busnes ysgrifennu.

Llyfr y Flwyddyn
Gwobrwyir £10,000 yr un i’r ddwy gyfrol orau yn Gymraeg a Saesneg. Cyhoeddwyd enillwyr 2007 - Llwyd Owen am Ffydd Gobaith Cariad a Lloyd Jones am Mr Cassini - mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd ar nos Lun 9 Gorffennaf 2007. Rhagor o wybodaeth gan Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org.
Ar gyfer pwy mae’r Academi?
Cynrychiola’r Academi fuddiannau awduron Cymru (beirdd, nofelwyr, rapwyr, storïwyr, beirniaid llenyddol a dramodwyr) ac ysgrifennu Cymreig a Chymraeg yng Nghymru a’r tu draw. Gweithia’r Academi mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Chanolfan Dylan Thomas (Tŷ Llên) yn Abertawe. Yn 2005 agorwyd drysau canolfan adnoddau newydd i awduron yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, sef Canolfan Glyn Jones er cof am y diweddar awdur.
Ym 1998 enillodd y Gymdeithas y cytundeb gan Gyngor Celfyddydau Cymru i sefydlu Asiantaeth Lenyddiaeth Genedlaethol. Ers hynny mae’r Academi’n gweinyddu cynlluniau nawdd, sef Awduron ar Daith, amrywiaeth o Gynlluniau Preswyl i awduron, prosiectau datblygu llenyddiaeth a Sgwadiau Sgwennu i Bobl lfainc - ac mae’n cynnig cymorth i’r rhai hynny sy’n trefnu eu rhaglenni llenyddol eu hunain. Mae gan yr Academi swyddfeydd yng Nghaerdydd a swyddogion maes sy’n gweithio yng Ngogledd a Gorllewin Cymru. Trefna’r ddigwyddiadau ei hun yn ogsytal, gan gynnwys cynhadledd ddwyieithog flynyddol a gŵyl lenyddol ym Mae Caerdydd.

Cyhoedda’r Academi A470, cylchgrawn deufisol sy’n llawn newyddion llenyddol o bob cwr o Gymru, Taliesin, cylchgrawn llenyddol sy’n ymddangos dair gwaith y flwyddyn, y New Welsh Review, y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a’r Companion to the Literature of Wales, Geiriadur yr Academi, ac amryw o gyfieithiadau. Gyda chefnogaeth y Loteri, mae’r Gymdeithas ar waith ar hyn o bryd ar y Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig cyntaf, a fydd yn ymddangos yn y Gymraeg ac yn y Saesneg yn 2007.
Mae Adroddiad Blynyddol 2006-7 yr Academi wedi ei gyhoeddi bellach, a gallwch ei ddadlwytho yma.
Ceir manylion llawnach ar hyn oll ar y wefan. Pe hoffech ragor o fanylion, neu sgwrs ynglŷn â gwaith yr Academi, mae croeso i chi gysylltu â ni.


