Beth mae’r Academi’n ei ariannu?
Sgwadiau Sgwennu i Bobl Ifainc
Mae’r Academi’n cynnig cyllid i Awdurdodau Lleol i sefydlu Sgwadiau Sgwennu i Bobl Ifainc, sy’n debyg iawn i’r amryfal gynlluniau datblygu chwaraeon yng Nghymru a’r DU. Anogir athrawon, llyfrgellwyr neu drefnwyr addysg sy’n dymuno sefydlu sgwadiau newydd yn eu hawdurdod i gysylltu â’r Academi am gyngor a chymorth.
Dylai plant a ddewisir ar gyfer Sgwadiau Sgwennu’r Ifanc fod yn rhai y mae eu hysgrifennu creadigol yn dangos gallu ac addewid anarferol. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe’u dewisir yn 9-10 oed yn fras, a gofynnir i brifathrawon ym mhob awdurdod enwi llenorion ifanc awyddus, sydd efallai â dawn arbennig. Bydd Trefnwyr Iaith yn gwneud y dewisiadau terfynol a bydd pob sgwad o blant yn cwrdd oddeutu dair neu bedair gwaith y flwyddyn (fel rheol ar ddydd Sadwrn) am sesiynau hyfforddi arbennig gyda llenorion eithriadol sydd â’r sgiliau cyfathrebu angenrheidiol i weithio gyda’r ifanc. Y nod yw cadw pob sgwad gyda’i gilydd tan ddiwedd eu dyddiau ysgol.
Cychwynnodd y sgwad gyntaf yng Ngwent yn 1996, ac fe’i dilynwyd ers hynny gan rai yng Nghaerdydd, Caerffili, Tor-faen, Blaenau Gwent, Powys, Merthyr Tudful, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Conwy, Dinbych, Ceredigion, Sir Fynwy, Ynys Môn, Casnewydd a Bro Morgannwg. Mae gan nifer o awdurdodau fwy nag un sgwad a sgwadiau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Disgwylir i ragor o awdurdodau ddatblygu Sgwadiau Sgwennu yn y dyfodol.
Mae’r Sgwadiau’n cael eu hystyried fwyfwy’n rhan bwysig o’r sîn lenyddol yng Nghymru. Mae rhaglen G?yl y Gelli yn cynnwys cyfres bwysig o ddigwyddiadau i blant gydag aelodau’r Sgwadiau Sgwennu’n darged amlwg. Ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ceir amryfal sesiynau gweithdy gyda llenorion Cymraeg amlwg. Bellach mae gan gorff o diwtoriaid brofiad o weithio gyda’r plant talentog hyn. Mae’r rhain yn cynnwys Gillian Clarke, Barry Simner, Francesca Kay, Ric Hool, Philip Gross, Robert Minhinnick, Jenny Sullivan, Moira Andrew, Mererid Hopwood, Iwan Llwyd, Gwen Redvers Jones, Ceri Wyn Jones, Elgan Phillip Davies.Mae’r Bardd Llawryfog, Andrew Motion, wedi gweithio gyda Sgwad Caerdydd ac mae Benjamin Zephaniah wedi ymweld â Sgwad Caerffili.
Cysylltwch os gwelwch yn dda â’r Academi yn post@academi.org i gael gwybodaeth bellach am y mudiad Sgwadiau.


