Bwrdd Rheoli
Dr Harri Pritchard Jones (Cyd-gadeirydd yr Academi)Wedi ennill parch ym meysydd meddygaeth a llenyddiaeth. Awdur 15 o gyfrolau sy’n cynnwys nofelau, storïau a beirniadaethau. Cyfieithwyd ei waith i wyth iaith, ac enillodd sawl wobr. Cyhoeddodd, ymhlith pethau eraill, Dychwelyd, Ar y Cyrion, Ysglyfaeth, Bod yn Rhydd a Pobl.
Dr John Pikoulis (Cyd-gadeirydd yr Academi)Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Saesneg a’r Adran Addysg Gydol Oes ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r llyfrau a gyhoeddodd yn cynnwys astudiaeth feirniadol o William Faulkner a bywgraffiad Alun Lewis (Seren).
Sally Baker (Tŷ Newydd)Cyfarwyddwraig Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Yn enedigol o Birmingham, ac wedi’i haddysgu yng Nholeg Prifysgol Cymru Abertawe. Mae wedi teithio’n eang a bellach wedi ymgartrefu yn Llanystumdwy.
David Woolley (Tŷ Llên) Awdur a threfnydd llenyddol. Swyddog Llenyddiaeth gyda Chyngor Sir Abertawe, ef sy’n gyfrifol am raglen digwyddiadau Canolfan Dylan Thomas (Tŷ Llên)
Gareth Miles (Aelod o Fwrdd Rheoli’r Academi) Awdur straeon byrion, nofelau, cyfresi teledu a dramâu, yn ogystal â chyfieithydd o’r Sbaeneg a’r Saesneg. Mae wedi cyhoeddi nifer o nofelau, gan gynnwys Hunllef yng Nghymru Fydd (Canolfan Astudiaethau Addysg Aberystwyth), Llafur Cariad (Hughes a’i Fab) a Ffatri Serch (Gwasg Carreg Gwalch). Mae’n byw ym Mhontypridd.
Ned Thomas (Mercator)Beirniad llenyddol ac ysgrifwr. Bu’n ddarlithydd yn Adran Saesneg Coleg y Brifysgol, Aberystwyth rhwng 1970–1990, ac yn olygydd y cylchgrawn Planet. Mae’n gyfarwyddwr Cynllun Mercator sy’n ymwneud â ieithoedd llai y Gymuned Ewropeaidd. Cyhoeddodd, ymhlith pethau eraill, The Welsh Extremist - A Culture in Crisis (Gollancz/ Y Lolfa) a Waldo Williams (Gwasg Pantycelyn).
Yn wreiddiol o Sir Benfro, ef yw Llyfrgellydd Cymunedol Wrecsam.
Mian Abdul Majeed (Bazm-e-Adab)Mae Mr Mian Abdul Majed yn gyn–gyfriethiwr sydd wedi ymddeol fel dyn busnes sydd wedi byw yng Nghymru ers 1971. Mae’n Gadeirydd ar Bazm - e - Adab, cylch llenyddol a sefydlwyd i drafod barddoniaeth Wrdw yng Nghymru. Mae Mr Majeed yn fardd ac yn ymddiddori ym myd llenyddiaeth. Mae hefyd yn Gadeirydd Race Equality First, Caerdydd a Bro Morganwg.
Phil CarradiceBardd, nofelydd, hanesydd a golygydd. Mae ei waith wedi ymddangos mewn amryw o gylchgronnau megis Poetry Wales, The Times Educational Supplement a’r New Welsh Review. Mae’n golygu The South Wales Golfer, prif gylghrawn golff Cymru. Mae’n arwain amryw o weithdai yn ysgolion ac i gylchoedd ysgrifennu.
Dr Grahame DaviesBardd, golygydd a beirniad llenyddol. Derbyniodd ddoethuriaeth oddi wrth Prifysgol Cymru Caerdydd, ym 1997. Bellach ef sy’n gyfrifol am wasanaethau arlein Cymraeg y BBC. Mae ei yrfa fel newyddiadurwr a chynhyrchydd wedi dod â nifer o wobrau Cymreig a Phrydeinig i’w ran. Y mae’n awdur naw o lyfrau, gan gynnwys Cadwyni Rhyddid, (Barddas, 2001) a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn.
Yr Athro Hazel Walford DaviesAcademydd, hanesydd diwylliannol, beirniad llenyddol. Ymhlith ei chyhoeddiadau y mae O.M. Edwards (Gwasg Prifysgol Cymru), Saunders Lewis a Theatr Garthewin (Gwasg Gomer), State of Play (Gwasg Gomer), Hwiangerddi O.M. Edwards (Gwasg Gregynog) a Now You’re Talking (Parthian).
Geraint James
Pennaeth Llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Merthyr Tudful ers 1990, ar ôl bod yn Llyfrgellydd Cyfeiriol a Hanes Lleol ers 1980. Geraint oedd yn gyfrifol am sefydlu’r Adran Gelfyddydau cyntaf yn y Cyngor Bwrdeisdref Sirol newydd ym 1996 ac fe arweiniodd brosiect celfyddydau cymunedol lleol llwyddiannus a noddwyd gan y Loteri Genedlaethol. Sefydlodd y Sgwadiau Ysgrifennu cyntaf yn y Bwrdeisdref.
Pennaeth Llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Merthyr Tudful ers 1990, ar ôl bod yn Llyfrgellydd Cyfeiriol a Hanes Lleol ers 1980. Geraint oedd yn gyfrifol am sefydlu’r Adran Gelfyddydau cyntaf yn y Cyngor Bwrdeisdref Sirol newydd ym 1996 ac fe arweiniodd brosiect celfyddydau cymunedol lleol llwyddiannus a noddwyd gan y Loteri Genedlaethol. Sefydlodd y Sgwadiau Ysgrifennu cyntaf yn y Bwrdeisdref.



