Canllawiau Ariannu

Gwybodaeth Gyffredinol

Dim ond o dan yr amodau hyn y rhoddir cymorth i ddigwyddiadau - pan fydd llenorion a chwedleuwyr:

  • yn rhoi gweithdai ymarferol mewn ysgrifennu creadigol ac yn y defnydd creadigol o iaith; yn rhoi darlithoedd ar destunau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gwerthfawrogi llenyddiaeth greadigol; yn rhoi darlleniadau/perfformiadau uniongyrchol o’u llenyddiaeth greadigol; neu’n rhoi perfformiadau o waith sy’n deillio o draddodiadau llafar
  •  yn dathlu, datblygu neu annog mwynhau neu ymarfer llenyddiaeth. Nid yw sioeau llenyddiaeth a gyflwynir gan actorion unigol yn gymwys o dan y cynlluniau hyn, er y gallem yn yr achosion hyn roi cyngor efallai ar ffynonellau cyllid eraill.        

Ni chyfyngir hyrwyddwyr i drefnu llenorion sydd ar y rhestrau Awduron Cymru. Er hynny, rhaid gallu dangos bod gan y llenorion a ddewisir yrfa lenyddol lwyddiannus a rhaid iddynt fod yn ddewis priodol ar gyfer y gwaith dan sylw.

Ni all yr Academi gynnig cymorth i ddigwyddiadau y sicrhawyd cyllid eisoes iddynt oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru. Os yw trefnwyr yn rhagweld gwneud cais am arian CCC ar gyfer digwyddiad arbennig, dylid rhoi gwybod i’r Academi. Ni chaiff trefnwyr mewn unrhyw amgylchiadau dderbyn cyllid ar gyfer yr un gweithgaredd oddi wrth yr Academi ac CCC. Bydd staff yr Academi yn falch o roi cyngor os yw trefnwyr yn ansicr mewn achos arbennig.

Wrth drefnu digwyddiad, dylid gofalu nad oes digwyddiadau lleol eraill neu ddigwyddiadau o arwyddocâd llenyddol ymhellach o’r ardal yn gwrthdaro. Bydd yr Academi yn falch o roi cyngor. Gall defnyddwyr edrych ar y cyfeiriadur cenedlaethol o ddigwyddiadau llenyddol ar y wefan hon. Mae’n cael ei ddiweddaru’n gyson. Cynhwysir gwybodaeth am y ddau fis nesaf
yng nghylchgrawn deufisol yr Academi o ddigwyddiadau llenyddol, A470.  Awgrymwn fod trefnwyr yn hysbysu’r Academi pan fydd dyddiad wedi ei drefnu fel y gellir cynnwys crynodeb bras o’r wybodaeth ar unwaith yn ein rhestrau ar lein. Gellir ychwanegu at y wybodaeth hon yn ddiweddarach.