Canllawiau Ariannu
Telerau ac Amodau
- Os yw’r Academi’n cynnig cymorth ariannol i ddigwyddiad, mae angen ein cydnabod mewn unrhyw raglen a argreffir ac ar bob cyhoeddusrwydd. Gellir lawrlwytho logo’r Academi o’r adran ‘Sut i gydnabod yr Academi’ ar y ddewislen i’r chwith. Mae ar gael hefyd ar bapur neu ar ddisg oddi wrthym ni. Rhowch wybod os gwelwch yn dda os oes arnoch ei angen yn y ffurf hon. Gofynnwn hefyd, os yw’n briodol, am gydnabyddiaeth ar lafar o gymorth yr Academi yn y digwyddiad ei hun.
- Dim ond i drefnwyr a hyrwyddwyr dilys y gall cynlluniau cyllido llenyddiaeth yr Academi gynnig cymorth. Ni all llenorion eu llogi eu hunain ac ni chaiff trefnwyr geisio cyllid ar gyfer digwyddiadau lle maent yn bwcio eu haelodau, eu gweithwyr cyflog neu eu swyddogion eu hunain i gyflwyno gweithdai neu berfformiadau. Yr unig eithriadau i’r rheol hon yw cyrff â llawer iawn o aelodau lle nad oes gan y llenorion a archebir gysylltiad â’r broses o wneud penderfyniadau.
- Ni chaiff staff yr Academi derbyn ffioedd sy’n deillio o unrhyw gynllun. Dim ond mewn achosion lle maent ymhell oddi wrth y broses benderfynu honno y ceir llogi aelodau o Fwrdd a Phwyllgorau’r Academi.
- Dylai athrawon nodi bod yn rhaid i sesiynau adrodd straeon mewn ysgolion bob amser gynnwys gwaith ysgrifennu creadigol fel rhan annatod o’r ymweliad.
- Ni chaniateir i’r Academi ariannu digwyddiadau codi arian elusennol.



