Canllawiau Ariannu
Ffioedd a Threuliau
Nid yw’r Academi yn gosod lefelau’r ffïoedd a delir i lenorion am wahanol fathau o berfformiadau a gweithdai, ond rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i wybod pa amrediad o ffïoedd y cytunir arnynt y dyddiau hyn rhwng llenorion a hyrwyddwyr am weithdai, darlleniadau a darlithoedd. Gall y rhain amrywio yn ôl profiad yr awdur, a oes angen gwaith paratoi arbennig ymlaen llaw, ac a dreulir amser arwyddocaol yn teithio yn ôl ac ymlaen i’r digwyddiad.
Ar sail ein gwybodaeth am y ffïoedd a godir gan lenorion yng Nghymru, gall yr amrediadau canlynol fod yn ddefnyddiol i hyrwyddwyr wrth iddynt drafod ffïoedd â llenorion:
- Awdur mewn ysgol am ddiwrnod: rhwng £120-£200; am hanner diwrnod: rhwng £70-£120
- Darlith neu sgwrs awr a baratowyd: rhwng £40-£100
- Gweithdy neu ddarlith 1-2 awr sy’n gofyn am baratoi arbennig neu
waith dilynol: rhwng £60-£200 - Perfformiad unigol neu slot "seren" mewn rhaglen o sawl llenor: rhwng £60-£200 yn dibynnu ar yr hyd, pa mor adnabyddus yw’r llenor, etc
- Noson gymysg gyda nifer o lenorion: o £20 i £60 yr un gyda pherfformiadau o 10-20 munud yr un.
Dylid trafod paramedrau ar gyfer digwyddiadau arbennig nas cynhwyswyd uchod â’r Academi cyn cysylltu â’r llenor/ion dan sylw. Mater i’r trefnydd yw cytuno â’r awdur ynghylch y ffi a bargeinio os oes angen.
Mae treuliau teithio hefyd yn fater i’w drafod ymlaen llaw. Gyda theithiau byr dylai’r rhain dalu gwir gostau’r awdur, sef petrol, trên neu fws. Dylid seilio costau teithiau hirach ar bris y tocynnau trên apex rhataf sydd ar gael lle bo hynny’n briodol. Dim ond os yw manylion treuliau teithio wedi eu cynnwys gyda chais y trefnydd y gall yr Academi ystyried cyfrannu tuag atynt. Gall yr Academi ystyried cyfrannu tuag at gostau llety dros nos lle bo angen. Argymhellir cyfradd uchaf o £40 y noson am ginio, gwely a brecwast ac ni wnaiff yr Academi gyfrannu mwy na hanner y swm hwn. Ni ellir ystyried costau cynhaliaeth onid ydynt wedi eu cynnwys yng nghais gwreiddiol y trefnydd.
Er bod yr Academi yn croesawu ac yn annog trefnwyr sy’n dod â llenorion i mewn o’r ochr arall i’r ffin, nid ydym yn teimlo ei bod yn briodol cynnig mwy o gymorth tuag at ddigwyddiadau o’r fath na thuag at ddigwyddiadau gyda llenorion o Gymru. Ni wnawn felly gyfrannu mwy na hanner y ffïoedd uwch yn yr amrediadau uchod. Fodd bynnag, gellir cynnwys treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos mewn ceisiadau am gymorth tuag at y digwyddiadau hyn, ar ôl trafod yn gyntaf â’r Academi.



