Canllawiau Ariannu

Meini Prawf Ysgrifennu Creadigol

  1. Cynlluniau’r Academi
    O dan delerau’r pedwar cynllun hyrwyddo llenyddiaeth a gefnogir yn ariannol gan yr Academi, dim ond i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â datblygu ymarfer, mwynhau a deall ysgrifennu creadigol, gan gynnwys y nofel, barddoniaeth, storïau byrion, dramâu ar ffurf ysgrifenedig, ysgrifennu arbrofol a beirniadaeth lenyddol, y cynigir arian.
  2.  Y Traddodiad Llafar 
     Mae’r Academi yn cydnabod hefyd bod y traddodiad llafar yn cynnal llenyddiaeth unrhyw wlad. Mae’r Mabinogi, Aneirin, y Gogynfeirdd, Dafydd ap Gwilym a Shakespeare, yr oedd eu gwaith yn wreiddiol yn cael ei glywed gan gynulleidfa ar ffurf lafar/ddramatig, wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i lenyddiaeth y byd. Rydym felly’n cydnabod adrodd straeon llafar fel rhan o’r sîn lenyddol.
  3. Hyd a lled swyddogaeth genedlaethol yr Academi  
    Dim ond â materion yn ymwneud â hyrwyddo llyfrau, llythrennedd a datblygu darllen sydd o ddiddordeb i awduron a chynhyrchwyr llenyddiaeth greadigol neu sy’n ymwneud â nhw y mae a wnelo’r Academi. Mae strategaethau cenedlaethol ar gyfer y materion cenedlaethol hyn yn nwylo’r awdurdodau lleol a Chyngor Llyfrau Cymru.
  4. Pynciau cymwys ac anghymwys 
    I fod yn gymwys i’w gefnogi gan yr Academi, rhaid i ddigwyddiad ddod o fewn tiriogaeth ysgrifennu creadigol. Ni fyddai testunau fel ioga, origami, systemau camlesi, archaeoleg, coginio, gwleidyddiaeth, materion tramor, economeg, hanes crefyddol, casglu stampiau, criced, teithio, darlledu, ffiseg, seryddiaeth, sêr-ddewiniaeth, casglu darnau arian, magu colomennod, garddio, tai-chi, aromatherapi, rheilffyrdd, ffigurau enwog nad ydynt yn rhai llenyddol, hanes cenedlaethol a rhyngwladol yn dod o fewn terfynau’r hyn y mae a wnelo’r Academi ag ef. Ond o bryd i’w gilydd, ceir awdur prin sy’n codi safon ysgrifennu yn ei faes i uchelfannau newydd er na fyddai’r pwnc ar yr olwg gyntaf yn un naturiol i ladmerydd ysgrifennu creadigol. Enghreifftiau posibl fyddai Jan Morris ar deithio, John Davies ar hanes, Jim Perrin ar fynydda. Gallai’r Academi gefnogi darlithoedd gan lenorion o’r cyfryw ansawdd, ond dim ond lle bo testun y ddarlith yn ymwneud yn bennaf â’r broses o ysgrifennu yn hytrach na’r testun ei hun. 
                 
    Ystyrir cefnogaeth tuag at ddigwyddiadau yn ymwneud â chofianwyr a llunwyr hunangofiannau yn yr un modd. Yn gyntaf, a oes ganddynt ddiddordeb agored mewn ysgrifennu creadigol? Neu, yn ail, a oes   rhywbeth ynglŷn â’r gwaith sy’n ei godi uwchlaw lefel hanes syml gyrfa pêl-droediwr neu fywyd ffigur crefyddol neu wleidydd?
  5. Cyngor
    Os nad ydych yn si?r a yw digwyddiad rydych yn ei gynllunio yn gymwys ai peidio, bydd staff yr Academi yn falch o roi cyngor.