Canolfan Glyn Jones
Cyflwyniad |
|
|
| Roedd yr Academi yn un o aelodau gwreiddiol y cynnig ar gyfer prosiect Canolfan Mileniwm Cymru dan gyfarwyddyd Syr Alan Cox, wrth i’r syniad o ganolfan ar gyfer diwylliant a’r celfyddydau ddatblygu. Ynghyd â’r chwe cwmni preswyl eraill – Yr Urdd, Opera Cenedlaethol Cymru, Diversions, Tŷ Cerdd, Hijinx a’r Ymddiredolaeth Touch – mae staff yr Academi erbyn hyn wedi ymgartrefu yn ein swyddfeydd newydd ar lawr isaf Canolfan Mileniwm Cymru. Yn wreiddiol, y syniad oedd y byddai swyddfa’r Academi yn gyfan yn symud i’r adeilad newydd, ond daeth yn amlwg na fyddai digon o le yno i’r asiantaeth hyrwyddo llenyddiaeth a hithau’n tyfu. Penderfynwyd felly y bydd yr holl staff sy’n ymwneud â’r cyhoedd yn gweithio yn swyddfeydd Canolfan y Mileniwm, ac y bydd gweddill y staff yn aros yn Sgwâr Mount Stuart. Ond nid swyddfa yn unig sydd gennym yn y Ganolfan. Agorwyd rhan o’r swyddfa fel Canolfan Glyn Jones er cof am yr awdur Glyn Jones (1905–1995). Diolch i gymynrhodd hael i’r Academi oddi wrth Glyn Jones a’i wraig Doreen, sefydlwyd canolfan adnoddau i awduron a’r cyhoedd gael gwybodaeth am ymarfer, cyhoeddi a hyrwyddo ysgrifennu. Mae’n fan cyswllt cyntaf i bobl gael gwybodaeth am gynlluniau ac adnoddau’r Academi, ac hefyd yn lle i gynnal digwyddiadau i hyrwyddo llenyddiaeth |
|
|
|
|
| Rhai o’r ymwelwyr cyntaf i Ganolfan Glyn Jones a gafodd cyfle i edrych ar yr adnoddau yn ystod yr agoriad swyddogol. Hawlfraint: John Briggs |





