Canolfan Glyn Jones
Adnoddau
Gall ymwelwyr i’r Ganolfan ar lawr isaf Canolfan Mileniwm Cymru manteisio ar:
- arddangosfeydd ar Glyn Jones a chasgliad o’i lyfrau
- llyfrgell o gyhoeddiadau Cymraeg a Chymreig
- casgliad o’r llyfrau a enwebwyd ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn
- cyswllt â staff yr Academi
- adnoddau ymchwil ar gyfer ysgrifennu, cyhoeddi a hyrwyddo llenyddiaeth
- gwybodaeth ar ddigwyddiadau a gwasanaethau’r Academi
- defnydd o’r we yn rhad ac am ddim ar gyfer gwaith ymchwil
Mae’r Ganolfan ar agor rhwng 10.00am – 4.00pm ddydd Llun i ddydd Gwener. Gall Aeloadau a Chefnogwyr yr Academi trefnu i ddefnyddio adnoddau’r Ganolfan trwy apwyntiad, ac mae croeso i bawb galw heibio i gael gwybodaeth am yr Academi, digwyddiadau llenyddol a chyfleoedd i awduron.
Cysylltwch â’r Academi 029 2047 2266 neu post@academi.org am ragor o wybodaeth.


