Sut i gydnabod yr Academi

Canllawiau Cydnabod Nawdd

Dylid cydnabod cymorth yr Academi ym mhob cyhoeddusrwydd sy’n ymwneud â’r digwyddiad/au sy’n cael cymorth. Mae hyn yn cynnwys posteri, rhaglenni, taflenni a phob cyhoeddusrwydd argraffedig arall yn ogystal â chydnabyddiaeth glir ar bob deunydd hyrwyddo perthnasol ar y rhyngrwyd a negeseuon e-bost.

Dylai datganiadau i’r wasg a chyfweliadau â’r wasg hefyd gydnabod cymorth yr Academi. Os yw hynny’n briodol, dylid rhoi cydnabyddiaeth ar lafar o gymorth yr Academi yn y digwyddiad ei hun. Mewn digwyddiadau pan fo hysbysu yn y lleoliad ac ar y llwyfan yn briodol trwy gyfrwng baneri sy’n neidio i fyny ac ati, rhaid cydnabod cymorth yr Academi ynghyd â chymorth y partneriaid eraill sy’n noddi ac yn gymesur â’r gydnabyddiaeth iddyn nhw.

Dylid defnyddio logo’r Academi, mewn lliw llawn lle bynnag y bo modd, ond mewn du a gwyn os oes angen. Dylai fod yn ddarllenadwy a dylid ei osod yn y lle mwyaf ymarferol, ond ni ddylid ei newid mewn unrhyw ffordd. Rhaid i logo’r Academi fod yn gymesur â’r logos eraill a ddangosir gan y client.
Os yw cyhoeddusrwydd yn cael ei baratoi cyn i’ch cais gael ei gyflwyno i’r Academi a heb fod yn dangos cydnabyddiaeth i’r Academi, gall hyn niweidio eich cais. Mae’r Academi’n mynnu’r hawl i gadw’r holl arian i unrhyw ddigwyddiad neu brosiect y cytunwyd arno, neu ran ohono, yn ôl pan fo’r trefnwyr yn fwriadol neu’n esgeulus wedi torri’r amodau uchod.

Dylid rhoi gwybod am unrhyw anhawster o ran cydymffurfio ag unrhyw rai o’r gofynion uchod ar unwaith i’r Academi. Os ydych yn methu â defnyddio’r logo ar ffurf ddigidol, mae hefyd ar gael oddi wrthym fel copi caled. Ffoniwch neu ysgrifennwch atom os gwelwch yn dda os hoffech gael copi caled, neu i drafod defnyddio logos yn fwy manwl. Os na allwch ddefnyddio delwedd am resymau allanol, cynhwyswch y llinell ganlynol os gwelwch yn dda:  Dymunwn gydnabod cymorth ariannol yr Academi.