Sut i gydnabod yr Academi
Rydym yn darparu cymorth ariannol ar yr amod eich bod yn cydnabod ein nawdd mewn deunydd cyhoeddusrwydd, gan gynnwys posteri, rhaglenni, taflenni neu unrhyw ddeunydd printiedig arall. Bydd hefyd angen i chi ddangos cydnabyddiaeth glir mewn e-byst neu ar wefannau.Dylech ein cydnabod hefyd mewn datganiadau i’r wasg ac mewn cyfweliadau gyda’r wasg. Dylid cydnabod ein cymorth ar lafar, lle’n briodol, yn y digwyddiad ei hun. Mewn digwyddiadau mawr lle mae modd arddangos ar lwyfan, ar ffurf baner neu cefnlen, dylid dangos cydnabyddiaeth yr Academi, ynghyd ag unrhyw noddwyr eraill.
Dylid defnyddio logo’r Academi, mewn fersiwn lliw pan yn bosib, neu mewn du a gwyn fel arall. Dylai’r logo ymddangos ar ddeunydd cyhoeddusrwydd yn glir ac yn ddarllenadwy, ac ni ddylid ei newid o gwbl. Dylai’r logo fod yn gymesur ag unrhyw logo arall a ddangosir.
Ni ddylai uchder y logo fod yn is na 9mm.
Camddefnydd o’r logo
Dylai logo’r Academi ymddangos mewn fformat llorweddol bob tro. Peidiwch a’i ymestyn na’i gywasgu. Ceisiwch ddefnyddio’r logo, yn hytrach na geiriau megis ‘noddwyd y prosiect gan Academi’ yn unig. Cofiwch ddefnyddio’r lliw cywir neu’r fersiwn du a gwyn.
1. Peidiwch cylchdroi’r logo
2. Peidiwch ei aflunio
3. Rhowch ddigon o gyferbyniad rhwng lliw y logo a’r cefndir
Os yw cyhoeddusrwydd yn cael ei baratoi cyn i’ch cais gael ei gyflwyno i’r Academi a heb fod yn dangos cydnabyddiaeth i’r Academi, gall hyn niweidio eich cais. Mae’r Academi’n mynnu’r hawl i gadw’r holl arian i unrhyw ddigwyddiad neu brosiect y cytunwyd arno, neu ran ohono, yn ôl pan fo’r trefnwyr yn fwriadol neu’n esgeulus wedi torri’r amodau uchod.
Rhowch wybod i’r Academi yn syth os ydych yn profi unrhyw anawsterau gyda’r gofynion yma. Os na allwch ddefnyddio’r logo mewn ffurf digidol, mae fersiwn papur ar gael yn ogystal. Cysylltwch â ni dros y ffôn neu yn ysgrifenedig os dymunwch dderbyn copi caled neu i drafod defnydd y logo ymhellach. Os na fedrwch ddefnyddio’r logo am unryw reswm, defnyddiwch y linell canlynol os gwelwch yn dda: ‘Dymunwn gydnabod nawdd ariannol gan yr Academi’.
Lawrlwytho Logos Digidol
Mae’r ddau logo a ddangosir isod yn y math mwyaf safonol o ffeil ar gyfer unrhyw ddeunydd wedi’i argraffu (TIFF). Cliciwch ar yr un yr hoffech ei ddefnyddio i’w agor a’i gadw.
![]() Lawrlwythwch logo lliw yr Academi |
![]() Lawrlwythwch logo du & gwyn yr Academi |
Mae’r logos hyn hefyd ar gael fel ffeil JPEG (addas ar gyfer gwefan neu unrhyw ddelweddau bach wedi’u hargraffu) mewn lliw neu ddu a gwyn, ac fel ffeil EPS (a argymhellir ar gyfer deunydd print cydraniad uchel), hefyd mewn lliw neu ddu a gwyn. Os byddai’n well gennych ddefnyddio un o’r mathau hyn o ffeiliau, cliciwch ar enw’r un yr hoffech ei ddefnyddio i’w agor a’i gadw.
Os ydych yn dal yn ansicr pa fath o ffeil i’w ddefnyddio:
TIFF – math poblogaidd o ffeil delweddau na all gynnwys graffeg fector (graddadwy). Mae maint y ffeil fel rheol lawer yn fwy na’r JPEG cyfatebol, ond mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ansawdd da y ddelwedd. Gellir defnyddio ffeiliau TIFF ar gyfrifiaduron Mac neu PC a gall y rhan fwyaf o gymwysiadau delweddu eu hagor a’u golygu.
Argymhellir ar gyfer: Unrhyw ddeunydd print
JPEG - defnyddir yn bennaf pan nad yw cydraniad uchel a pherffeithrwydd lliw mor hanfodol (e.e. ar wefan neu ar gyfer delweddau print bach iawn). Gall y rhan fwyaf o gymwysiadau golygu delweddau sylfaenol eu hagor a’u golygu. Y fantais yw bod y ffeiliau’n fach iawn.
Argymhellir ar gyfer: Tudalennau Gwe
EPS – defnyddir fel rheol os yw’r ddelwedd yn mynd i gael ei hargraffu. Maent yn raddadwy i unrhyw faint, ac yn cadw’r manylder a’r cydraniad. Mae’n hanfodol bod â meddalwedd a all drafod y math yma o ffeil; y mathau mwyaf cyffredin yw Adobe Photoshop, Adobe Illustrator, Quark, neu Paint Shop Pro.
Argymhellir ar gyfer: Deunydd print cydraniad uchel





