Cyfleoedd i Awduron
Manylion
Gwasanaeth gwybodaeth wedi’i anelu at awduron or bob lefel yw Cyfleoedd i Awduron. Bwriad yr Academi yw i restri’r manylion diweddaraf am gystadlaethau, cyrsiau, galwadau am gynigion, cyfleoedd hyfforddiant a llawer mwy. Os oes ganddoch wybodaeth am gyfleoedd a fyddai o ddiddordeb i awduron, yna danfonwch y manylion at post@academi.org
Cliciwch ar y rhestr ar y dde am ragor o fanylion y cynlluniau unigol.
Amodau a thelerau ar gyfer defnyddwyr y we
Mae gwasanaeth ‘Cyfleoedd i Awduron’ yn darparu llwyfan i gyrff lennyddol hysbysebu unrhywbeth a all fod o fudd i Awduron Cymru (e.e. swyddi gweigion, beirdd preswyl, galwadau am gyfraniadau). Caiff y gwasanaeth yma ei ddarparu gydag ewyllys da ac yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr y we yn ogystal â chyrff llenyddol eraill sydd yn ei ddefnyddio i hybu cystadlaethau sydd ar ddod.
Nid yw Academi yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y rhestr hwn, nac am ansawdd, diogelwch na chyfreithlondeb y cynnwys a hysbysir ar y tudalennau hyn. Mae defnyddwyr y we yn masnachu’n uniongyrchol â’r cyrff llenyddol a restrir ar eu menter eu hunain, ac nid yw Academi yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu niwed o ganlyniad i gysylltiad â hyrwyddwyr a ddefnyddia’r gwasanaeth yma.
Mae Academi’n cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais i hysbysebu os teimlir ei fod yn amhriodol, ac yn gofyn i ddefnyddwyr ddod ag unrhyw bryderon ynglyn â’r tudalennau i’w sylw ar unwaith.
Wrth ddefnyddio’r rhestr ar y tudalennau hyn rydych yn derbyn yr amodau a thelerau hyn.
Mae’r Academi yn dymuno rhybyddio awduron y dylent fod yn ymwybodol o’r modd y mae rhai cystadlaethau ysgrifennu yn medru twyllo – cliciwch yma am ragor o wybodaeth.


