Darlithoedd

Harri Pritchard Jones
Paratowyd y ddarlith hon gan Harri Pritchard Jones ar gyfer Annwfn: Cynhadledd Gymraeg yr Academi ar Seicoleg a Llenyddiaeth yn Sir Benfro, 20 Ionawr 2007

Wrth feddwl am beth oedd i’w ddweud mewn cynhadledd fel hon, fe droais i yn ôl yn fy meddwl at gynhadledd arall, neu seminar fel y galwyd hi, a gynhaliwyd yn 1957, yn Abaty Downside yng Ngwlad yr Haf hanner can mlynedd yn ôl. Abaty’r Brodyr Duon, sef y Benedictiaid, ydy Downside, ac mi gysylltir hi yn arbennig gyda sant o Gymro, y merthyr o Drawsfynydd, John Roberts. Un o’r saint a folwyd gan Waldo yn ei gerdd Wedi’r Canrifoedd Mudan. Yn ôl llawer o bobl, gwallgofion ydy pobl fel y saint merthyrol yna!

Teitl y seminar oedd The Arts, Artists and Thinkers. An Inquiry into the Place of the Arts in Human Life, ac fe gyhoeddwyd y cyfraniadau mewn cyfrol drwchus ar ddwy ochr yr Iwerydd. Roeddwn i wedi prynu’r gyfrol yn y lle cyntaf am imi glywed fod Saunders Lewis yn cyflwyno tystiolaeth y bardd ynddi, ac mi welais wedyn fod Cymro arall, Alan Pryce-Jones, golygydd y Times Literary Supplement ar y pryd, hefyd wedi cyfrannu ar ‘Ryddid y Dychymyg’. Ond braidd yn adweithiol oedd ei sylwadau o, gwaetha’r modd! Ta waeth am hynny ruan.  

Ar ddechrau cyfraniad y seico-therapydd, Rita Page Barton, oedd yn defnyddio paentio, modelu a gweithredoedd celfyddydol eraill yn ei gwaith, ceir y dyfyniad hwn o ddrama Breuddwyd Nos tyl Ifan, Shakespeare, yng nghyfieithiad ein Bardd Cenedlaethol, Gwyn Thomas:

Mwy syn na gwir. Alla’ i byth gredu
 Yr hen chwedlau hyn, na phetheuach Tylwyth Teg
Mae gan gariadon ac ynfydion y fath ’menyddiau berw.
 Y fath ddychymyg i greu ffurfiau, sy’n canfod
 Mwy nag y gall y rheswm oer ei ddeall byth.
 Mae’r lloerig, y carwr, ac hefyd y bardd,
 Wedi’u gwneud o ddychymyg i gyd.
Gwêl un fwy o ddiawliaid nag sydd yn uffern fawr:
Hwnnw ydi’r ynfyd. Mae’r carwr yntau, ’run  mor wyllt,
 Yn gweld tegwch Helen yn nhalcen sipsi.
Mae llygad, yn troelli mewn gorffwylledd,
Yn tremio o’r nef i’r ddaear, o’r ddaear fry i’r nef;
Ac fel y mae’r dychymyg yn rhoi cyrff
I siapiau pethau cudd, mae pin y bardd
Yn eu troi nhw’n ffurfiau, a rhoi i ddim disylwedd
Breswylfa mewn rhyw le, ac enw. 

Dyna ichi gyfosod y bardd a’r carwr gyda’r ynfytyn neu’r gwallgofddyn, yn bobl sydd, am amryfal resymau, yn wahanol; mewn byd bach eu hunain yng ngolwg rhai pobl, a heb berthyn i’r byd go iawn, sef realaeth i’r rhelyw ohonon ni.

Gan mai Saunders Lewis oedd yr un oedd yn cynrychioli’r beirdd, mae’n werth nodi beth oedd ei dystiolaeth o, ac a oedd hwnnw’n debyg mewn unrhyw ffordd i’r hyn y soniodd Ms Barton amdano. Ar ôl diffinio beirdd fel pobl sy’n dal i hoffi barddoniaeth hyd yn oed ar ôl duad i oed, mae Saunders Lewis yn dweud hyn (fi sy’n cyfieithu):

 Sut bynnag y cychwynnith cerdd, yr hyn sy’n gyrru’r bardd ymlaen i weithio arni yw’r sylweddoliad fod yna addewid yn yr hyn sy’n bodoli’n annelwig yn y meddwl, addewid am ffurf, am fod yn gerdd. Bardd yw rhywun sydd wedi dod i’r arfer o lunio cerddi. Trwy hir ymarfer mae’n magu’r medr i adnabod a chasglu’r math o ddeunydd y gellir ei ffurfio’n gerdd. … Nid yw cerdd yn fynegiant o rywbeth sy’n bodoli’n barod,  na, chwaith, o rywbeth sydd wedi digwydd  eisoes ond heb gael ei fynegi. Pan fyddwch yn gwneud cerdd, rydych yn ymwybodol o ddau weithgarwch, hanfodol a chyson.  Mae’r cyntaf yn gymhleth. Mae’ch cerdd wedi cychwyn, hwyrach dim ond llinell, efallai mwy, efallai - er gwaethaf Mallarmé -  egin syniad.
 
 Felly fe ddechreuwch gorddi, dyfeisio, darganfod, cymalau, hanner-llinellau, llinellau, brawddegau sy’n cropian tuag at y ffurf rythmig iawn, neu’n sy’n methu, ac  felly fe adeiledir eich cerdd. Wrth gwrs eich bod yn dibynnu ar yr hyn a eilw’r  meddygon yn flaenymwybod am atgofion a chysylltiadau o bob math ac o bob cyfnod o’ch bywyd, ac fe welwch eich bod yn cael eich bwydo gyda delweddau ac  awgrymiadau am ddeunydd addas ar gyfer y cam hwn neu’r llall yn hanes eich cerdd. Wyddoch chi ddim beth all ddod i’r fei. Nid yw’n fater o fod gennych syniad ond heb fod wedi canfod y gair iawn i’w fynegi. Na, yn syml, nid yw’r syniad gennych eto, rydych yn hongian, yn disgwyl, yn ewyllysio, arbrofi, dwyn i gof, hwyrach wrth lafarganu cymal drosodd a thro, pysgota am y peth, anobeithio, ac yna pan fo’ch cur pen mor ddrwg nes eich bod yn rhoi’r gorau iddi ac am droi am y gwely, yn sydyn mae’n dod - na, nid dod, ond mae yno, fel proton ac fel Proteus , heb groesi unrhyw ofod, yn anghredadwy o wyryfol, heb fod yn debyg i unrhyw beth a ddisgwylid gennych, ond mor hurt o anochel nes eich bod yn hollol gelwyddgar yn ei alw le mot juste…Y gerdd yw’r profiad … Nid dyn oedd wedi bod  trwy Uffern oedd Dante yr inferno, ond dyn oedd yn mynd i greu Uffern.

Ond rhaid imi beidio awgrymu mae rhyw gêm dennis yw hyn i gyd rhwng y meddwl ymwybodol a’r blaenymwybod. Mae yna drydydd actor: gadewch inni ei alw’n dechneg. … Haerodd Paul Valéry unwaith y byddai Racine yn newid cymeriad un o’r dramatis personae os byddai’r odl yn hawlio hynny.

Yr ail weithgarwch cyson wrth lunio cerdd yw beirniadu. …

Allwch chi ddim rheoli’r hyn a gynigir gan y blaenymwybod. Mae hanner-llinellau’n llamu i fyny, cymalau,  cyfuniadau newydd o eiriau; delweddau  ac atgofion yn ymffurfio mewn geiriau,  weithiau’n sionc, weithiau’n afrosgo.  Ond dyna le’r ydych chi, y chi disgwylgar beirniadol, yn effro, yn gwylio, yn gwrthod, dethol, symud y darnau o gwmpas, yn adeiladu’r dewisedig yn uned derbyniol, profi nhw wrth eich clust, eu llefaru mewn goslefau gwahanol, eu harchwilio ar bapur. Ydych chi’n ddigon amyneddgar?  Allwch chi wrthod yn ddigon dyfal neu ydych chi’n ildio i’r hyn y gwyddoch sy’n eilradd? 

Allwch chi ddisgwyl yn ddigon hir, fel pysgotwr uwchben pwll tywyll? Ydy’r beirniad ynoch chi - hanfod y bardd ynoch – yn ddigon penderfynol, anhyblyg, cain a chyfrwys? Mae popeth yn dibynnu ar hynny. Mae llunio cerdd, fel llunio darlun, yn weithred o feirniadaeth gymwysedig.

Mae hwn’na, i mi, yn ddisgrifiad diddorol a dadlennol o’r broses o greu llenyddiaeth, ac nid barddoniaeth yn unig. Mae yna sawl elfen ynddo yn cyfateb i’r hun ddwedodd Henry Moore am y broses o lunio cerflun, a David Jones am gyfansoddi llenyddiaeth.

Yn amlwg, rhaid i’r awdur fod â thipyn o brofiad o fywyd, fod â deunydd crai megis, a, hefyd, fedru arsyllu tu fewn i’r hunan, fel rhyw seicdreiddio, yn ogystal â bod yn ddigon o gwmpas ei bethau i fedru edrych yn feirniadol ar yr hyn sy’n dod i’r fei iddo fo neu hi.

Mewn seicdreiddiad mae’r un sydd ar y soffa, megis, yn cael ei gymell i fynegi ac ystyried yr hyn sy’n dod i’r meddwl, wrth hel meddyliau mewn rhyw fath o lif yr ymwybod. Ceisio, gyda chymorth y seicdreiddydd - fel y darllenwr mewn cyd-destun arall - gweld perthnasedd ac arwyddocâd yr hyn a ddaw i’r fei. Free Associations oedd teitl llyfr gan y Cymro enwog o seicdreiddiwr, Ernest Jones, gur cyntaf y cerddor Morfudd Owen, a chofiannydd Freud; y gur a gyflwynodd Freudiaeth i’r byd Saesneg ei iaith, ac i’r cenhedloedd - yn ystyr grefyddol y gair.

Mi soniodd y Freudiaid lawer am y prosesau o ymwrthod neu guddio neu drawsnewid atgofion, neu olion profiadau annymunol neu annerbyniol. Mi aeth Theodoro Adorno mor bell ag awgrymu na ddylid ystyried llunio celfyddyd yn sgil erchyllterau’r Holocawst. Proses arteithiol o boenus fu hi i rai o oroeswyr y gyflafan honno, megis Primo Levi, wynebu eu hatgofion a’u trosi’n llenyddiaeth; proses a yrrodd Levi yn y diwedd i wneud amdano’i hun.

Er hynny, roedd Levi yn ddyn gweddol sefydlog ei bersonoliaeth, fel Saunders Lewis, ond beth am bobl lai sefydlog? Tybed oedd Caradog Prichard yn un? Pobl â phroblemau seicolegol dwys neu gymhleth?

Gwell inni nodi, cyn mynd ymhellach, beth ydy ystyr anhwylder neu afiechyd meddwl, neu afiechyd neu anhwylder seicolegol neu seiciatregol, i seicolegwyr a seiciatryddion? Mae’r termau Cymraeg, o’i defnyddio’n iawn, yn fanwl ac yn dra disgrifiadol. Dyna ichi wallgofrwydd. Fel arfer, ac yn amlwg felly, ei ystyr ydy gwall yn y cof; a hynny oherwydd rhyw nam organig ar yr ymennydd, effaith cyffuriau hwyrach, neu salwch fel sgitsoffrenia sy’n medru achosi gweledigaethau neu ddrychfeddyliau - hynny ydy, gweld neu glywed neu deimlo, neu arogli neu flasu, pethau sydd ddim yno neu ddim yn bod; camdybiaethau, wedyn, fel paranoia - sy’n medru arwain at gamymddygiad dybryd.

Ond mi ellir colli cof neu atgofion oherwydd natur y rheini eu hunain, neu o leiaf mi ellir eu rhoi o’r neilltu, er y byddai Freudwyr yn honni y byddant yn gorfod effeithio ar y person mewn ffordd isymwybodol. Dyna sail newrosis a ffobiâu ac ati. Rhaid nodi, yn ogystal, tor-calon amhriodol neu ormodol, fel yn achos y fam yn Un Nos Ola Leuad.

Gall cyflyrau fel hyn olygu diffyg dirnadaeth o bethau fel y maen nhw - neu fel y mae’r mwyafrif call yn meddwl eu bod nhw, yr hyn a elwir yn realaeth. Ond cofier am y gyfrol ryfeddol honno, The Divided Self, gan fardd o seiciatrydd, David Laing, lle y pwysleisir y ffaith fod realaeth neu ddirwedd a dirnadaeth pob person yn wahanol, o safbwynt gwahanol.

Wedi’r cwbl, beth ydy ystyr y term realaeth? Yn ôl Daniel Williams, mewn rhifyn o Taliesin yn 2005:

Yr hyn sy’n cael ei gymryd yn ganiataol…yw mai ffurf benodol o ysgrifennu yw realaeth, a’i nod yw adlewyrchu dirwedd.  Bu gwrth-realaeth yn un o nodweddion theori ôl-strwythurol chwarter olaf yr ugeinfed ganrif. Nid oes lle yma i gynnig arolwg o brif hanfodion theoriau ôl-strwythuraeth, ond un o brif amcanion yr ôl-strwythurwyr ym maes beirniadaeth lenyddol fu dadlennu’r modd y llwydda’r nofel realaidd i berswadio’r darllenydd ei fod yn darllen disgrifiad neu wylio darlun o’r byd go iawn fel y mae, yn hytrach nag un fersiwn penodol o’r byd hwnnw o bersbectif ffaeledig. Tra bod awduron realaidd yn dueddol o dybio bod gan iaith y gallu i fynegi dirwedd, a bod modd adlewyrchu a chynrychioli’r byd trwy iaith, noda’r ôl-strwythurwyr fod yr hyn a ystyriwn yn ‘real’ yn seiliedig ar bob math o ragfarnau a rhagdybiaethau ideolegol amheus. Datblygwyd felly ddulliau o ddadadeiladu’r testun realaidd.

Wrth gwrs, os nad wrth reswm bob tro, rhaid inni gofio fod breuddwydion yn bethau sy’n afreal ar un wedd, ac eto’n real i’r cysgwr, a heb fod yn arwydd o salwch neu anhwylder meddwl. Mae’n arwyddocaol mai ar soffa y gosodid cleifion Freud i drafod breuddwydion a theimladau ac ati.

Yn ei Ddarlith Goffa ar Ernest Jones fe ddwedodd yr hanesydd celf, E. H. Gombrich, hyn am agwedd seicdreiddwyr at gelfyddyd:

Yn y rhelyw o’r trafodaethau a geir gan seicdreiddwyr ar gwestiwn celfyddyd y  prif ddiddordeb yw’r gyfatebiaeth rhwng celfyddyd a breuddwydio. Ni ellir gwadu nad yw’r agwedd hon o fwy o fudd ym maes llenyddiaeth na gyda pheintio.

Ar yr un pryd, mae’n beirniadu’r arfer o ‘atgyfodi’ artistiaid a’u gosod ar soffa’r seicdreiddiwr fel y gwnaeth Freud gyda Leonardo da Vinci ac Ernest Jones gyda Shakespeare.

Mwy buddiol, dybiwn i, ydy troi at fyd plant a phobl ifanc, sy’n gweld pethau’n wahanol i’r gweddill wrth chwarae plant, neu wrth arbrofi wrth groesi’r bont i fyd yr oedolion.

Yn ei lyfr Playing and Reality, mae’r seiciatrydd plant, Donald Winnicott, wedi dylunio sut y mae’r meddwl, o gyfnod babandod ymlaen:

ag iddo adrannau canolraddol, rhwng y goddrychol a’r gwrthrychol, lle mae ffantasïau mewnol, anwir, yn cyd-fyw a chydweddu â realaeth allanol, sy’n wir, ac heb unrhyw wrthddweud: cyffyrdd neu gymerau sy’n darddleoedd naturiol i chwarae, creadigrwydd a gwybodaeth neu adnabyddiaeth symbolaidd.’

Ychwanega:

Y mae rheswm gwrthrychol, neilltuedig, megis ffantasïau neilltuedig, y naill neu’r llall, yn gallu bod yn elyn i’r fath chwarae a chreu.

Mae syniadau fel rhai Winnicott yn fwy derbyniol i artistiaid ac i esthetegwyr na rhai Freud ei hun. Ond yr oedd syniad Freud am gyfatebiaeth rhwng cenhedliad jôc a chreu celfyddyd yn dangos ei fod yn ymwybodol o’r ffaith fod y cyfrwng y mae’r artist yn gweithio ynddo yn gallu llunio rhywfaint ar ffurf y gwaith a grëir.

Fel yr awgryma Winnicott, mae byd y dychymyg ar y terfyn efo byd yr afreal, a hyd yn oed byd rhithiau a thybiaethau a drychiolaethau sy’n medru perthyn i fyd afiechydon neu anhwylderau seicolegol neu seiciatrig.

Mae’r darn yma gan Eurig Wyn, ar ddechrau’i nofel Bitsh! yn ddiddorol yn y cyd-destun hwn. Mi gofiwch fod yr adroddwr yn agor ffeil yn ei brosesydd geiriau, fel Angharad Jones yn ei nofel hithau, Y Dylluan Wen. Dyma’r disgrifiad yn nofel Eurig Wyn:

 Wyth ffeil. Yn lle dechreua i? Dwi’n gwybod cyn dewis mai mynd yn ôl i’r chwedegau y bydda i. Dwi’n gwybod hefyd mai ffug neu hanner gwir, yw cynnwys pob ffeil. Ond dydi o ddim ots am hynny. Peth braf ydi camu’n ôl i fyd real breuddwydion, hyd yn oed os
ydi o’n fyd o hannar ffantasi a hannar ffaith ac yn fyd o greu dychmygion.

Ond dyna be ydi cof, ynte? Boed hwnnw’n gof un bod dynol, cof cenedl neu gof y bydysawd mawr ei hun. Chwilio a chwalu ac ymbalfalu yn niwl y gorffennol yr ydan ni i gyd i geisio dallt pam. Pam fy mod i yma heddiw? Sut y cyrhaeddais i yma? Ac mae
’nghof i, a’r ffeilia sydd ynddo fo, yn gynrychioliadol o gof pawb. Oherwydd fi sy’n dewis beth sydd yn y ffeilia. A dethol be ydan ni isho’i gofio fyddwn ni i gyd y rhan fwya a’r amser.

Mae’r frawddeg olaf yna fel pe bai’n cyfiawnhau ôl-strwythuraeth, on’d ydy hi!

Oes yna awgrym yna, hefyd, fod yr awdur, neu’r adroddwr, yn ystyried byd breuddwydion yn fwy real na’r bywyd effro? Wedi’r cwbl, claf mewn ysbyty seiciatrig ydy o, wedi trosglwyddo cymeriad ei dad ar un o’r seiciatryddion a’i hen gariad ar y seiciatrydd o ferch iau. 

   *   *   *

Ond o ystyried problemau seicolegol mewn llenyddiaeth, rhagor nag mewn awduron, dylid nodi’n syth fod yna ddwy ffordd o amlygu’r rheini. Ar naill law, gellir cyflwyno’r broblem fel achos clinigol, gan arddangos y drysni mewn darluniau fel rhai Bacon, neu lenyddiaeth fel Finnegan’s Wake James Joyce, neu weithiau Kafka. Mae’r salad geiriau a geir yn Finnegan’s Wake, a defnyddio term seiciatregol, yn symptomatig ynddo’i hun. Ac mae’n debyg fod awduron fel Joyce, erbyn y diwedd, fel Kafka, yn dioddef o salwch meddwl.

Duw a uyr beth feddylia’r rhelyw ohonon ni am Finnegan’s Wake, er i Aneirin Talfan Davies gynnig eglurhad diddorol ar y cynnwys. Mae llenyddiaeth pobl sydd â phroblemau seicolegol dwys yn medru bod yn rwtsh-ratsh, diystyr a di-fudd, o leiaf fel llenyddiaeth.

Ar y llaw arall, mi fedrir cyflwyno problemau seicolegol mewn iaith ac arddull nad ydy’n ddyrys ynddo’i hun. Mae’r un peth yn wir am gyflwyno diflastod mewn llenyddiaeth. Mi fedrwch chi geisio bod yn ddiflas, a diflasu’ch darllenwyr, neu mi fedrwch gyflwyno’r boring mewn ffordd grefftus, gyfrwys, hyd yn oed yn llawn hiwmor. Does ond eisiau ichi gofio golygfa agoriadol drama Wesker, Roots.

Yn ei bryddestau, mae Caradog Prichard yn cyflwyno a disgrifio a chyfleu gwallgofrwydd ei fam, a fethodd yn lân â threulio ei galar anesgor, a gwneud hynny mewn barddoniaeth gain, ddealladwy. Mater arall ydy ei nofel hunangofiannol, Un Nos Ola Leuad.

Ffordd arall o ddianc rhag cysgodion ac ellyllon yng nghilfachau’r meddwl ydy mynd yn hysterig neu’n lloerig, gan ffoi fel y disgrifia Francis Thompson, y creadur tlawd a oedd yn gaeth i opiwm ac yn cael ei gnoi’n fyw gan atgno oherwydd nad aeth yn offeiriad Pabyddol, yn ei gerdd The Hound of Heaven: yn ffoi a ffoi, ‘down the labyrinthine ways of my own heart’.

Canlyniad arall i boen trawmatig, arteithiol yn tarddu o atgofion neu rith sylweddau ydy i’r bersonoliaeth chwalu’n llwyr, nes datddyneiddio’r person neu ei yrru i ddifancoll.

Wel, beth am rywun fel Caradog Prichard? Does dim dwywaith iddo ddioddef profiadau erchyll yn ei fagwraeth, neu ddiffyg magwraeth, ac iddo geisio eu disgrifio a’u trawsnewid i fod yn llenyddiaeth. Gwneud hynny fel ymgais i gael carthu’r boen o’i enaid, fel catharsis. Ond lwyddodd o ddim yn hynny o beth.

Mae ei waith yn rhyfeddol o hunangofiannol, ond does dim arwydd ei fod o yn dioddef o salwch meddwl cynhenid, oni bai inni ystyried fod yna ryw elfen gynhenid yn y pruddglwyf a’r chwalfa ar bersonoliaeth a ddatgelir yn ei nofel fawr. Ond i ba raddau y mae’r nofel yn hunangofiannol? Cymharwch ei chynnwys efo’r llyfr sydd i fod i fod yn hunangofiant, sef Afal Drwg Adda. Mae yna batrwm ac mae yna stori a chymeriadu a disgrifio a chonsurio goslef yn y nofel, ond mae’r hunangofiant bondigrybwyll yn llawn anghysonderau, dryswch, a ffeithiau anghywir.

Mi fûm i’n trafod y nofel a’r hunangofiant efo gweddw Caradog, Mati, er mwyn cael gwybod am y ffeithiau sylfaenol ynghylch bywyd Caradog a’i fam; er enghraifft, pryd fu hi farw. Roeddwn i’n adnabod Caradog, a fy mam wedi ei magu efo fo ym Methesda, ond, wrth gwrs, dydy dyn ddim yn holi am bethau annymunol heb fod yn gyfaill agos iawn, a chanddo reswm digonol dros godi’r cwestiynau. Yn y diwedd, er mwyn cael gwybod pryd fu farw’r fam, roedd rhaid mynd at y ffynhonnell ryfeddol honno, Elwyn Hughes, a oedd wedi edrych ar y garreg fedd.

Yma, rhaid inni gydnabod y broblem o ddisgrifiadau sydd i fod wedi eu seilio ar atgofion. Maen nhw’n dweud fod hunangofiant fel arfer yn fwy celwyddog - neu anwir - na nofel hunangofiannol. Does dim modd bod yn sicr am a fu; fel dwedodd T. S. Eliot, does neb byth yn rhoi ei law yn yr un afon fwy nag unwaith.

Er hynny, rhaid cofio fod pob tamaid o lenyddiaeth yn atgof o ryw brofiad, boed yn un personol neu wedi ei drafod gyda rhywun arall neu wedi ei ddarllen yn rhywle. Mae’r dull o gyflwyno neu gael hyd i hynny yn medru bod yn alegorïaidd, chwedlonol, neu’n realaidd, gan osod y profiad mewn cyd-destun neu ffurf arall i’w ddieithrio rhywfaint, neu fel ffordd o fedru ei wynebu. Fel arfer, hyd yn ddiweddar o leiaf, yn enwedig ym myd rhyddiaith Gymraeg, realaeth fu’r nod. Ond cofier beth ddwedodd Daniel Williams am realaeth.

Wel, rydw i’n cofio, flynyddoedd yn ôl, y diweddar Caerwyn Williams yn fy ffonio i. Roedd o’n un o feirniaid cystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Roedd o am gael fy marn i, fel rhyw lun o seiciatrydd, ar waith un o’r ymgeiswyr - yn gyfrinachol wrth gwrs. Roedd am i mi weld a oedd y darnau am broblemau meddyliol yn gwneud synnwyr. Fy ateb i oedd mai fo oedd i benderfynu a oedd y darn neu’r gwaith yn gweithio fel llenyddiaeth yn ei farn o.

   *   *   *

Fel y gwyddon ni, roedd celfyddyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn bwriadu dyrchafu meddwl a synhwyrau pobl. Yn y ganrif ddiwethaf y cawson ni grewyr celfyddyd yn sylweddoli fod mwy nag un ochr i unrhyw beth, a bod rhaid wrth dechnegau newydd i gyfleu hynny, fel y gwnaeth y ciwbistiaid.

Aeth pethau’n fwy ar chwâl wrth inni gael mudiadau megis y swrealwyr, y fauves, mudiad dada, celfyddyd fynegiannol neu haniaethol, ac ymchwil cyson, di-ildio am wreiddioldeb - er ei fwyn ei hun, mae’n ymddangos. Mae’n ymddangos hefyd fod hyn yn arwydd o agwedd gyffredinol gymysglyd, neu ddiffyg unrhyw sicrwydd o safbwynt a gai ei dderbyn yn fodlon ac yn hyderus.

Mae’r holl ddatblygiadau megis yn rhan o broses o unigoli pobl. Mi ddwedir fod gwaith James Joyce, yn enwedig Ulysses, yn amlygu ac yn tarddu o’r chwalfa mewn cyfathrebu, wrth i bobl golli’r sicrwydd eu bod yn medru cyfathrebu â’i gilydd; ffenomen sydd fel pe’n rhagweld y mudiad ôl-strwythurol yn y cyfaddefiad fod pawb yn gweld neu’n dirnad pethau’n wahanol wrth ymwneud ag unrhyw gyfrwng. Mewn geiriau eraill, mae’r byd wedi gwallgofi, yn colli’r cof am hen rin geiriau a symbolau ac arwyddion sydd wedi rhoi iddyn nhw dras a rhywfaint o arwyddocâd parhaol.

Un agwedd arall ar y colli gafael a ddeilliodd o brofiad pobl fel Picasso a Schoenberg, yn ogystal â Joyce, ydy rhywbeth arall dyfodd yn ninas Kafka, Prâg, sef realaeth hudol. Yn ei lyfr Chwerthin ac Anghofio, mae Milan Kundera yn disgrifio pethau afreal hollol yn digwydd yn y ddinas ryfeddol a hudol honno (hudol fel Port Meirion, sydd hefyd ag arwyddocâd llenyddol!).

Mae’n son am bobl yn codi o’r ddaear, yn dawnsio yn yr awyr, yn son am artistiaid a feiddiai freuddwydio a cheisio dianc o ddifancoll bywyd fel yr oedd ar y llawr. Wrth gwrs, agwedd ar y realaeth hudol sydd yma, ac mae’n nodweddiadol o’r rhai a ddefnyddia’r arddull, rhai fel Kundera ei hun a Gabriel Garcia Marquez, a’r peintiwr Chagall, iddyn nhw fyw trwy chwalfeydd mawr hanesyddol a therfysgoedd personol unigol; profiadau na fedran nhw’u cyfleu’n ddigonol mewn naratif rhyddieithol arferol, mewn rhyw fath o roman fleuve.

Mae peth o hyn’na yn nofel Caradog Prichard. Yn sicr roedd o’n ceisio gwneud rhywbeth dioddefadwy allan o’i brofiadau erchyll. Neu am geisio rhoi trefn ar ei fywyd, gan obeithio medru allanoli, a hyd yn oed garthu, y profiadau dyrys a ddaeth i’w ran yn blentyn.

Wrth gwrs, dim ond teimladau a dirnadaethau’r prif gymeriad yn y nofel gawn ni, sef dyn sydd wedi dychwelyd i fro ei febyd ar ôl cyfnod hir mewn ysbyty i droseddwyr gwallgof. Ond mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau a geir yn y nofel yn rhan o hanes Caradog a’i fam, o leiaf yn eu hallanolion.

Roedd y profiadau yn ddigon enbyd i ddrysu ei fywyd am byth, a’i yrru i geisio gwneud amdano’i hun unwaith o leiaf. Lwyddodd o ddim i garthu’r gofidiau ynghlwm wrth ei brofiadau, ond wrth eu hwynebu’n ddewr mi lwyddodd i roi patrwm arnyn nhw, a hwnnw’n batrwm arwyddocaol.

Hynny ydy, mi lwyddodd i greu ceinder llenyddol drwy gyfansoddi ac adrodd ei stori, trwy amrywio goslef a chyflwyno oriel o gymeriadau lliwgar, diddorol. Yng ngeiriau Joel Conarroe, yn ei adolygiad ar y cyfieithiad Saesneg o lyfr Caradog yn y New York Times:

  Prichard’s vision in One Moonlit Night is communicated in language that provides intense esthetic pleasure.

Erbyn hyn, mae’r nofel wedi ei chyfieithu i o leiaf chwe iaith. Fel Primo Levi, ac awduron mawr eraill, megis Dostoiefsci, mi lwyddodd Caradog i drawsnewid ei brofiadau erchyll, a’r rhai hapusach, yn gelfyddyd fawr; i aruchelu agweddau mwyaf trist a diraddiol ac esgymun ein natur a’n bywydau. Mewn ffordd o siarad, i’w hachub nhw!

Ond nid trafod y nofel fel llenyddiaeth yn bennaf yr ydw i i’w wneud heddiw, ond yr elfennau o salwch neu anhwylder seicolegol neu seiciatrig sydd ynddi. Mae’r allanolion yn y gwaith fel cronicl, ond hanes yr eneidiau unigol yn ei holl waith sy’n ddiddorol i rywun sy’n ymwneud â phethau seicolegol yn benodol.

Tristwch a galar oedd themâu mawr gwaith Caradog i gyd, y nofel a’r pryddestau a’i gerddi i gyd bron. Methiant oedd ei hunangofiant a’r gyfrol Y Genod Yn Ein Bywyd. Yn y cerddi, fel y gwyddon ni, mae’n trafod y tristwch a’r galar yn helaeth. Ydych chi’n cofio agoriad ei bryddest gyntaf o’r tair i ennill iddo Goron y Genedlaethol? -

 O dristwch oer di-ddagrau. Na chawn ddiddanwch wylo
 Fel heulwen esmwyth haf i feiriol ia fy loes;
 Af ato ar fy neulin i geisio nawdd y Dwylo
 A estyn Ef pan ddelo awr greulon cario’r groes.

O’r sefyllfa ‘oer di-ddagrau’ yna hyd at y crio anhygoel ym mhennod olaf  ond un Un Nos Ola Leuad, dyna ystod a rhychwant bywyd a gwaith Caradog Prichard.

Pan aeth Caradog, druan, â’r goron eisteddfodol genedlaethol gyntaf honno i ddangos i’w fam yn y seilam, beth wnaeth hi ond ei rhoi ar ei phen a chanu:

  Yn berl yng nghoron Iesu
  Dymunwn fyth gael bod,
  Yn seinio Iddo foliant,
  Yn canu Iddo glod.

Roedd ei galar wedi ei drysu hi, fel y gwelir yn y disgrifiadau ohoni a’i sefyllfa yn ei farddoniaeth, ond ffoi oddi wrth ei galar hi oedd nod mawr bywyd Caradog, yn enwedig ar ôl iddo weld na fedrai ‘achub’ ei fam drwy ryw fath o ‘gatharsis’ ail-law drosti yn ei bryddestau.

A beth am ei gyflwr meddyliol o, awdur Un Nos Ola Leuad? A chyflwr y prif gymeriad yn y nofel? A beth ydy perthynas yr un a’r llall?

Yr un pryd, rhaid atgoffa pobl mai gwaith ditectif ydy llawer o waith seiciatrydd. Mae ambell i berson wedi cael ei drin fel claf am ei fod yn honni ei fod yn rhywun arbennig iawn, ac yn y diwedd mi sylweddolwyd ei fod o neu hi yn dweud y gwir. Rhaid dibynnu ar dystiolaeth y meddyg teulu, y teulu ei hun a chyfeillion, efallai, yn ogystal â’r un sydd i fod yn glaf, wrth lunio diagnosis.

I ddechrau gyda’r awdur yn yr achos yma, hwn ydy’r hogyn amddifad gafodd drafferth i ymwneud â merched gydol ei oes. Mae wedi son amdano’i hun newydd adael cartref a mynd i Gaernarfon i weithio fel newyddiadurwr, ac yn methu’n lân ag ymwneud â merch ifanc yr oedd wedi ymserchu ynddi. Dyma ei eiriau am y peth, yn Afal Drwg Adda:

O edrych yn ôl, credaf mai dyma’r adeg y teimlais y crac yn fy mhersonoliaeth. Hyd yma yr oeddwn yn eofn a hunan hyderus, yn ymladdwr ffyrnig ac wedi ennill enw fel tipyn o fwli yn yr ysgol ac ymhlith hogiau’r ardal. Ond ar ôl y sioc o ganfod Mam yn dechrau drysu daeth dirywiad amlwg yn fy nghymeriad. Cerddwn yn llechwraidd ar hyd ffyrdd y pentref fel un yn ofni ei gysgod

Rhywsut, er hynny, mi wyddon ni i Caradog lwyddo i beidio suddo dan y dôn o hunan-dosturi, ac yn lle hynny mi heriodd fywyd lawer o’r amser gan chwarae’r fful weithiau, rhag ymfeirioli’n bwll o ddagrau. Hefyd, mi wynebodd o’r cowdal oedd ohoni wrth i hen ganllawiau Anghydffurfiaeth - a phob enwad - wegian, wrth i safiad dewr y chwarelwyr fethu trechu Mistar Mostyn, gan arwain at raniadau hyll o fewn y gymdeithas, ac i’r rhyfel dduad fel gordd lle nid oedd angen hyd yn oed morthwyl bellach.

Ym mywyd Caradog roedd yna dynnu coes, ffolinebu dibwrpas er mwyn hwyl yn unig, ymhyfrydu mewn diod a sigarau a rhyw. Does ganddo ddim affliw o ddim i’w ddweud yn erbyn afradlondeb: dyn y llan a’r dafarn oedd o. Dyna ragweld llawer o’r newidiadau cymdeithasol a’n goddiweddodd ni fel cenedl yn y ganrif ddiwethaf.

Wrth iddo wynebu ei fod yn amddifad, mi welodd mor wag oedd ei gymdeithas hefyd, ac mi gefnodd arni i raddau helaeth. Er iddo geisio ‘achub’ ei fam a bod yn ffyddlon iddi, roedd o’r un pryd yn ei chasáu â chas perffaith, fel yr oedd yn casáu gymaint o agweddau ar y gymdeithas y magwyd o ynddi.

Mi geisiodd ffoi trwy droi yn alltud, i Gaernarfon, i Gaerdydd ac i Lundain. Ond wnaeth o ddim dengyd, ac mi dynnodd y cortyn bogail personol a chymdeithasol yna fo’n ôl i fro ei febyd yn y diwedd, ar ysgoloriaeth Cyngor y Celfyddydau, wrth iddo ddeisyfu iachâd. ’Chafodd o ddim un. Ond wnaeth o ddim mynd i’w dranc fel y creadur yn y nofel a ymadawodd â phoenau’r fuchedd hon drwy gerdded i ddifancoll yn y Llyn Du.

Ar un wedd, o adnabod Caradog yn arwynebol ac astudio’i fuchedd, mi ellid meddwl ei fod wedi llwyddo i ymddihatru oddi wrth y gymdeithas afiach ac anghyson a rhagrithiol yr oedd wedi’i fagu ynddi; oddi wrth y Biwritaniaeth oedd wedi gosod tabu ar bob hwyl neu afradlondeb yn ogystal â rhyw a diod gadarn. Y dyn debonair, yr yfwr brandi ac ysmygwr sigarau; y dyn oedd yn gwirioni ar geir crand - mi logodd Rolls Royce gwyn er mwyn gyrru’i ferch fach newydd adref o’r ysbyty mamolaeth ar hyd y Strand!

Yn sicr, mi roedd o’n afradlon wrth yfed, caru, a son am ryw yn ei lyfrau. Roedd bron ag ymdrybaeddu mewn afradlondeb. Hwyrach, er hynny, mai rhyw or-brotestio oedd hyn ar ran dyn oedd i ddal drwy’i oes i fod yn dipyn o ‘hogyn bach ei fam’.

Arhosodd Caradog am gyfnod yng Nghaernarfon ymysg y criw bohemaidd oedd yno bryd hynny, gan gynnwys Cynan a Prosser Rhys a Morris T. Williams. Dynion beiddgar oedd yn ymwybodol herio pob tabu, yn yfed ac ymbleseru a byw’n afradlon, yn torri cyt a gwisgo teiau pili-pala, ac yn agored ynghylch eu rhywioldeb - gan gynnwys i ryw raddau rhywioldeb hoyw.

Rhan Dau