Darlithoedd

Paratowyd y ddarlith hon gan Harri Pritchard Jones ar gyfer Annwfn: Cynhadledd Gymraeg yr Academi ar Seicoleg a Llenyddiaeth yn Sir Benfro, 20 Ionawr 2007 (2/2)


Y cam nesaf oddi wrth ei fam oedd i Gaerdydd, lle bu’n astudio am radd a chyfarfod ei wraig. Wedyn ymhellach fyth, i Lundain, lle y bu fyw am weddill ei oes. Ymunodd â’r fyddin pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd a mynd i India. Hyd yn oed yno, ni fedrai anghofio’i fam. Mi soniodd am weld merch ryfeddol o hardd yn Cimla, ond i ddrychiolaeth o’i fam ymrithio rhyngddo a’r ferch.

Gydol gweddill ei oes roedd yn byw braidd yn afreal, gan bwyso’n drwm ar ei wraig a gwirioni’n lân ar y ferch, Mari. Ymysg y pethau y gellir dibynnu ar eu geirwirder yn yr hunangofiant, mae’n son amdano yn 1938, yn fuan ar ôl iddo symud i Lundain, ac yntau’n drideg pedwar oed. Mae’n debyg ei fod yn sylweddoli nad oedd dianc rhag y fam i fod, a hefyd ei fod yntau’r un oed â’i dad pan fu hwnnw farw. Dyma’r hanes ganddo:

 Yn ôl f’arfer troais am beint myfyriol i un o’m hoff dafarnau yn y Strand. Ac ar ôl y peint cyfeillgar, mynd i lawr y grisiau i orsaf dan-ddaear yn Sgwâr Trafalgar i ddal y trên gartref i Golders Green. Cofiaf godi tocyn a mynd i mewn i’r trên yn y tiwb. Yn ystod y daith aeth popeth yn dywyll a disgynnodd llen drwchus dros y meddwl. Nid oeddwn dan ddylanwad diod; rhaid fyddai cael mwy na pheint i gyrraedd y stad honno.

Y peth nesaf a gofiaf yw eistedd mewn cadair yn wynebu gorsaf-feistr un o’r gorsafoedd rhwng y Strand a Golders Green. Gallaf weld ei wyneb y munud yma, yn eistedd wrth ddesg gyferbyn â mi. Roedd ganddo fwstas bach melyn a gwisgai sbectol ymyl aur. Edrychai arnaf yn dosturiol-ddifrifol. ‘Rydych yn un o’r dynion mwyaf lwcus dan haul,’ meddai. ‘Roeddych yn gorwedd yn y trac o fewn rhyw fodfedd neu ddwy i’r lein drydan. A phe baem wedi bod funud neu ddau’n hwy yn eich codi oddi yno fyddech chi ddim yma’n gwrando arna i.’

Doedd Caradog yn cofio dim am beth oedd wedi digwydd, ond cyfaddefodd:

Nid oes un amheuaeth gennyf nad ymgais fwriadol ydoedd, dan orchymyn yr isymwybod, i ymado â’r fuchedd hon yn wirfoddol. Oblegid dyma’r union adeg yr oeddwn yn troi a throsi yn fy mhen y syniad am gerdd am hunan-ddistryw.

Sylwch, gyda llaw, ar y dinc eglwysig yn yr iaith wrth iddo son am ‘ymado â’r fuchedd hon …’ ac ati.

Doedd o ddim, meddai, yn siur pam fod y syniad o hunan-ddistryw wedi ymaflyd ynddo, ac wedi duad i’w benllanw wrth feddwl am ei dad, ond mae’n awgrymu hwyrach fod a wnelo’r peth hefyd â’r ffaith mai yn Ninbych yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol i fod y flwyddyn honno. Ac yno, yn yr ysbyty i’r sâl eu meddwl, meddai:

… ymhlith y deiliaid, roedd y fam a ysbrydolodd bob un o’m pryddestau blaenorol a’r llinyn umbilical yn dal heb ei dorri.  Ac onid ymgais i’w dorri fu dan orchudd y llen a ddisgynnodd yn y tiwb?

Fel y nodwyd, daeth y Rhyfel, gwasanaeth yn India, geni Mari a gwaith wedyn ar y Daily Telegraph. Bu’n meddwl am ddychwelyd i Gymru, ond wnaeth o ddim tan yn hwyr iawn yn ei fywyd.

Yn 1954, bu farw’r fam, a magodd y mab ddigon o blwc i fynd yn ôl i’w famwlad; i’w hen ardal; i fro ei febyd ac wynebu’r lle a’r gymdeithas a’r atgofion fu’n ei frawychu fel ysbrydion aflan gydol ei oes. ’Chafodd o fawr o groeso pan ddychwelodd, fwy na gafodd ei gynhebrwng. Roedd pobl yn teimlo iddo ddwyn gwarth ar yr ardal yn ei waith llenyddol, a hwyrach iddo orliwio pethau oherwydd y ffordd y profodd o fywyd mor anhapus yn ei ieuenctid. A phwy a uyr nad oedd yr hen ensyniad yn fyw, fod ei dad wedi bod yn fradwr - a  hwyrach wedi cael ei ladd o achos hynny? 

Ond rhaid edrych ar y prif gymeriad yn y nofel a’i gymharu â Charadog ei hun. Aeth y ddau yn ôl i fro eu mebyd, sef Dyffryn Nantlle trannoeth Streic Fawr y chwarelwyr, Diwygiad 1904/05 ac yn erbyn cefndir y Rhyfel Mawr. Roedd y ddau’n llawn euogrwydd: am y drosedd a gyflawnwyd ganddo yn achos y cymeriad yn y nofel, ac oherwydd iddo deimlo euogrwydd am fethu achub ei fam rhag ei thranc fyw yn y seilam yn achos yr awdur. Mae arwyddion eglur o Gymhlethdod Oidipos yn achos y ddau. Yn y nofel, mae’r hogyn yn llawer rhy agos at ei fam, heb dad, yn clywed ei fam yn crio’n ddistaw o hyd ac o hyd, ac yn methu’n lân â thorri’n rhydd i fedru ymwneud â merched ei oed ei hunan yn iawn. Mae’r cyflwr yn ddigon tebyg i’r un yn Rhys Lewis, wrth gwrs.

Mae’r cymhlethdod yn medru arwain at bethau fel gwyrdroadau rhywiol, yn enwedig pan fo cronfa o lid yn y bachgen eisoes. Ac os ydy rhywun yn un cydwybodol, teimladol, mae euogrwydd, ie a goreuogrwydd afiach, yn medru’ch ysu, eich sigo wrth ichi gael eich hollti rhwng teyrngarwch gnawd ac ysbryd i’r rhiant, ar y naill law, a’r ysfa, ar y llaw arall, i gael cyfathrach gyda rhywun o’ch oed eich hun. Mae ambell un yn troi at ei ryw ei hun, ambell un at buteinio - fel digwyddodd yn Portrait of the Artist as a Young Man, James Joyce, ac ambell un yn troi at drais rhywiol.

Yr olaf o’r rhain ddigwyddodd yn hanes yr hogyn yn y nofel, ac yn hynny o beth dydy’r gwaith ddim yn hollol hunangofiannol. Er hynny, rydw i’n siur fod Caradog wedi coleddu teimladau rhyfeddol o gas tuag at ei fam - a, hwyrach, at ei dad - am ei osod mewn cyfyng-gyngor mor affwysol yn ei fywyd.

Does dim darn mwy trist yn ein llên o’r Hengerdd hyd heddiw na’r bennod olaf ond un y nofel, a diau ei fod yn hollol hunangofiannol. Mi gofiwch ddarn agoriadol  nofel Kate Roberts, Tywyll Heno, lle yr eir â’r darllenydd i mewn i ward hen wragedd yn Ysbyty Meddwl Dinbych, mewn cyfnod ar ôl marwolaeth mam Caradog. Mae’r byd yn wyn, glinigol wyn, a diddymdra amlwg yno, ond mae yna un tamaid bach o liw, sef modrwy aur sy’n arwydd i’r hen wreigan ddiffrwyth yn y gwely gwyn fod unwaith yn briod, yn gariad, a hwyrach yn fam; wedi caru a chasáu, gobeithio a chael ei siomi; wedi bod yn fod dynol normal.

Ond, och, yn hanes yr hogyn yn y nofel fel yn hanes Caradog ei hun, wedi hebrwng ei fam i’r seilam, a disgwyl yn hir, derbyniodd barsel bach gan y chwaer nyrsio yno, a hwnnw’n cynnwys nid yn unig ei dillad, ond hefyd ei modrwy briodas.

Felly, mae’n amlwg fod yna beth wmbredd o’r hunangofiannol yn nofel Caradog, a phroblemau a chyflyrau seicolegol a seiciatrig yn frith drwyddyn nhw. Ond mae Caradog wedi llwyddo i allanoli, i ddieithrio rhywfaint ar ei brofiadau o wrth greu’r prif gymeriad yn y nofel, a rhoi iddo ei hanes arbennig ei hun. Er hynny, mae’n hawdd iawn cymhathu’r ddau greadur: yr awdur a’i gymeriad.

Er cymaint y wylodd yr hogyn bach yn y nofel, wnaeth hynny ddim ei ryddhau o’i alar a’i euogrwydd am ei berthynas efo’i fam, fwy nag y gwnaeth mynd yn ol i fro ei febyd a llunio’r nofel ddim profi i fod yn gatharsis yn hanes Caradog ei hun.

Hawlfraint: Harri Pritchard Jones

Nôl i Rhan Un